S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ymateb i gwynion gan ymgyrchwyr lles anifeiliaid  

23 Rhagfyr 2013

Mae S4C wedi ymateb i gwynion gan ymgyrchwyr lles anifeiliad sydd wedi beirniadu un o raglenni’r Sianel dros gyfnod y Nadolig.

Mae Y Syrcas yn ffilm deuluol fydd yn cael ei darlledu ar S4C Ŵyl San Steffan am 7.00. Wedi ei gosod yn y flwyddyn 1848, mae Y Syrcas yn stori am ferch ifanc sy’n cael ei hudo gan antur y syrcas deithiol, ac yn dod yn ffrindiau gyda’r eliffant.

Mae’r ffilm yn gynhyrchiad gan fFATTI fFILMS ar gyfer S4C mewn cydweithrediad ag Aimimage. Wedi ei lleoli a’i ffilmio yn ardal Tregaron, cludwyd dau eliffant o’r Almaen er mwyn bod yn rhan o’r cynhyrchiad.

Wrth ymateb i gwynion gan y grŵp Animal Defenders International (ADI), meddai Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Dafydd Rhys:

"Gydol y prosiect yma, fe roddwyd blaenoriaeth bob amser i les yr anifeiliaid.

"Yn unol â gofynion S4C, fe gafwyd cyngor arbenigol er mwyn diogelu lles yr eliffantod.

"Y cyngor a gafwyd oedd bod eliffantod yn anifeiliaid haid a chanddynt natur gymdeithasol a'u bod yn fwy dedwydd yng nghwmni eliffantod eraill. Dyna pam y cytunodd y cynhyrchwyr i ddod draw â phâr o eliffantod am y cyfnod ffilmio, er mai dim ond un oedd ei angen mewn gwirionedd.

"Yn ystod yr holl gyfnod y bu'r eliffantod o dan ofal y tîm cynhyrchu, roedd milfeddyg sŵolegol yn bresennol hefyd i fonitro lles yr anifeiliaid ac i gynnig cyngor parod gydol yr amser.

"Ar ôl derbyn pob sicrwydd gan y cwmni cynhyrchu, gall S4C fod yn gwbl hyderus bod lles yr eliffantod wedi cael blaenoriaeth yn ystod cyfnod ffilmio'r cynhyrchiad arbennig iawn hwn."

Diwedd

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?