18 Gorffennaf 2014
Tra bod amaethwyr Cymru wrthi’n gwneud eu paratoadau olaf cyn cychwyn am Sioe Frenhinol Cymru sy'n dechrau ddydd Llun, mae’r cyffro yn cynyddu wrth i bobl ben arall y byd edrych ymlaen at allu gwylio cystadlu’r Sioe ar ffrydiau byw S4C.
O ddydd Llun tan ddydd Iau, 21-24 Gorffennaf, bydd S4C yn darlledu tair ffrwd fyw o'r Sioe ar wefan S4C Clic: ffrwd fyw S4C, ffrwd fyw ddi-dor o'r Prif Gylch, a ffrwd fyw o'r Neuadd Gneifio. Bydd y ffrydiau ar gael i'w gwylio yn fyd-eang gyda dewis o sylwebaeth Gymraeg neu Saesneg, felly gall bawb sydd â diddordeb ddilyn yr holl gystadlu.
Mae nifer o bobl sy'n gysylltiedig â chneifio yn Seland Newydd wedi anfon negeseuon at S4C yn edrych ymlaen at y darllediadau o'r Sioe.
Mae Lliwen Gwyn Roberts o Lanuwchllyn bellach yn byw yn Seland Newydd gyda'i dyweddi, y cneifiwr Gareth MacRae, ac mae Gareth a nifer o'u ffrindiau a'u gydweithwyr yn edrych ymlaen yn arw at wylio'r cystadlu.
Meddai Gareth MacRae sy’n dod o Piopio yn Seland Newydd:
"Dwi wir yn edrych ymlaen at wylio'r ffrwd fyw o Sioe Frenhinol Cymru, dwi'n meddwl y bydd hyn yn beth gwych i'r gamp ac yn ei hyrwyddo mewn ffyrdd da, felly diolch i S4C."
Yn cadw llygaid ar y cneifwyr i weld a fydd unrhyw un yn addas i ddod i gneifio gyda'i gwmni yn Seland Newydd fydd y contractwr cneifio o gwmni Barrowcliff Shearing, Mark Barrowcliff.
Meddai Mark: "Ry'n ni'n cyflogi oddeutu hanner cant o bobl bob blwyddyn felly dwi'n edrych ymlaen at wylio'r ffrydiau byw o'r Sioe Frenhinol i edrych am ddarpar weithwyr sy'n awyddus i ddod draw. Ro'n i'n arfer cystadlu hefyd a dwi wedi bod draw yn y Sioe nifer o weithiau felly mi fydd yn dda dal i fyny efo beth sy'n digwydd draw acw, felly dwi methu aros i wylio. Diolch yn fawr."
Mae'r ffrydiau byw yn golygu bod Cymry sydd draw yn Seland Newydd hefyd yn cael gweld yr hyn sy'n digwydd adref. Un ffermwr o Gymru sy'n edrych ymlaen at wylio'r ffrydiau yw Delwyn Jones, cneifiwr o Lanelidan ger Rhuthun, sydd bellach yn byw yn Te Kuiti yn Seland Newydd.
Meddai Delwyn, “Fyddai'n edrych ymlaen at watchad y live streaming o'r Royal Welsh yn Seland Newydd, pob lwc i gyd o'r competitors a phawb o Sir Ddinbych."
I wylio fideos o’r negeseuon o Seland Newydd, ac am ragor o wybodaeth am ffrydiau byw S4C ewch i s4c.co.uk/sioe
Diwedd