S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Tim pel-droed Cymru yn anelu at greu hanes ar S4C

02 Medi 2015

Mae'r wythnos hon yn addo bod yn un hanesyddol i dîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wrth i'r garfan anelu at gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2016 yn Ffrainc. Wrth iddynt deithio i Nicosia i wynebu Cyprus ar nos Iau, 3 Medi, mi fydd Sgorio yn darlledu uchafbwyntiau estynedig o'r gêm ragbrofol UEFA grŵp B yr un noson.

Tridiau'n ddiweddarach mi fydd Cymru yn ôl ar dir cyfarwydd Stadiwm Dinas Caerdydd ar gyfer gêm allweddol arall yn erbyn Israel. Mi fydd S4C yn dangos holl uchafbwyntiau'r noson ar nos Sul, 6 Medi.

Mae hi bron tri mis bellach ers y noson fythgofiadwy honno yn Stadiwm Dinas Caerdydd pan drechodd Cymru Wlad Belg o 1-0, gan roi Chris Coleman a'i dîm ar frig Grŵp B. Gan eu bod eisoes wedi ennill 14 pwynt o'u chwe gêm gyntaf, mi fydd pob aelod o'r garfan yn ymwybodol o'r cyfle sydd yno i sicrhau eu lle yn Euro 2016 - 57 mlynedd ers y tro diwethaf i Gymru gyrraedd rowndiau terfynol cystadleuaeth pêl-droed ryngwladol.

"Mae gennym ni un droed yn Ffrainc yn barod, ac rwy'n hyderus iawn y bydd Cymru yn dod adref o Gyprus gyda'r tri phwynt," meddai sylwebydd Sgorio a chyn-chwaraewr Newcastle a Chymru Malcolm Allen.

"Does dim tîm yn y byd sydd yn fwy hyderus na Chymru ar hyn o bryd. Mae pawb wedi bod yn siarad am Gareth Bale ond mae pob aelod o'r garfan nawr yn dangos ymroddiad llwyr at eu gwlad. Mi fydd hi'n gêm agos a bydd Cyprus wedi arfer â'r tywydd cynnes yno. Ond does ganddyn nhw ddim chwaraewyr fel Gareth Bale ac Aaron Ramsey.

"Os byddwn ni'n ennill y gêm yn Nicosia mi fyddwn ni'n dychwelyd i Gaerdydd yn llawn hyder. Mi ddaru ni drechu Israel yn hawdd oddi cartref 'nôl ym mis Mawrth felly bydda i'n disgwyl buddugoliaeth arall i dîm Chris Coleman ddydd Sul. Am y tro cyntaf ers amser hir mae cefnogwyr Cymru yn disgwyl, yn hytrach na gobeithio."

Yn ymuno â Malcolm Allen ar dîm sylwebu Sgorio am y ddwy gêm bydd Nic Parry, gyda Dylan Ebenezer yn cyflwyno'r holl gyffro. Gwestion arbennig ar gyfer y gêm yn Nicosia, ac yn cadw cwmni i Dylan yn y stiwdio bydd cyn-chwaraewyr Cymru, Dai Davies ac Owain Tudur Jones.

Cyn yr holl ddrama ar y cae pêl-droed bydd cyfle i ymlacio yng nghwmni criw Euro 2016: Taro'r Bar, nos Fercher, 2 Medi. Dylan Ebenezer fydd yn cyflwyno yng nghwmni'r actorion a'r ffans pêl-droed angerddol Aled Pugh a Huw Rhys wrth iddynt edrych ymlaen at y gemau mawr gyda gwledd o adloniant, chwerthin, sgwrsio a heriau anarferol.

"Mae Aled a Huw yn 'obsessed' gyda phêl-droed felly mae'n anodd iawn cau eu cegau nhw," meddai cyflwynydd Taro'r Bar, a chefnogwr oes tîm cenedlaethol Cymru, Dylan Ebenezer.

"Mi fydd Malcolm Allen gyda ni unwaith eto i roi ychydig o sens i'r sgwrs - chi'n gwybod bod chi'n 'desperate' pan chi'n dweud hynny! Mae Huw ac Aled yn dod lan â phob math o syniadau gwirion. Yn y rhifyn yma byddwn ni'n gweld nhw'n chwarae gêm anarferol iawn o'r enw 'Ffwtgolff'!" Hefyd yn ymuno â'r criw mae Natasha Harding sy'n chwarae dros dimau merched Manchester City a Chymru.

Mewn wythnos dyngedfennol i bêl-droed Cymru, ymunwch â'r cyffro ar S4C.

Euro 2016: Taro'r Bar

Nos Fercher 2 Medi 10.00, S4C

Isdeitlau Saesneg

Euro 2016: Cyprus v Cymru

Nos Iau 3 Medi 10.30, S4C

Euro 2016: Cymru v Israel

Nos Sul 6 Medi 10.35, S4C

Cynyrchiadau Rondo Media ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?