S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Ysgol Gerdd Ceredigion yn ennill Côr Cymru 2019 ac yn mynd i’r Eurovision

Bydd Ysgol Gerdd Ceredigion yn hedfan allan i Gothenburg yn Sweden ym mis Awst i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Eurovision Choir 2019 ar ôl ennill cystadleuaeth Côr Cymru 2019.

Y côr o siroedd Ceredigion a Chaerfyrddin dan arweiniad Islwyn Evans oedd dewis y beirniaid nos Sul 7 Ebrill yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth mewn noson a gafodd ei chyflwyno'n fyw ar S4C yng nghwmni'r darlledwyr Heledd Cynwal a Morgan Jones.

Yn ychwanegol at y tlws, roedd yna wobr ariannol o bum mil o bunnau.

Ysgol Gerdd Ceredigion, Johns' Boys o Rosllannerchrugog, CF1 o Gaerdydd, Côr Ieuenctid Môn a Chôr Sioe Ieuenctid Môn oedd y pum côr aeth benben a'i gilydd mewn cystadleuaeth gafodd ei chanmol i'r cymylau gan y beirniaid.

Dyma'r chweched tro i Islwyn Evans ennill y brif wobr gyda gwahanol gorau. Dywedodd Islwyn. "Efallai ei fod yn brofiad cyfarwydd imi ond mae'r côr yma yn griw newydd. Mae hi wedi bod yn gystadleuaeth a hanner. O'n i yn y cefn yn gwrando ac roedd pob côr wedi codi eu gem ac mae hynny'n ganmoliaeth fawr i'r arweinyddion a diolch yn fawr i'r gynulleidfa. Gethon ni wefr fawr yn perfformio ar y llwyfan yma, ac mae gennym ni lot o happy bunnies yn y côr yma!

"Rwy' mor falch dros y merched, yn enwedig gan y bydd sawl un yn symud ymlaen i golegau ar ôl yr haf, maen nhw wedi bod mor deyrngar i fi dros y blynyddoedd. We'n i'n teimlo bod ni wedi cael hwyl arbennig arni ar y llwyfan. Maen nhw wedi cynhyrfu'n lan nawr wrth edrych ymlaen at yr Eurovision!"

Côr Sioe Ieuenctid Môn enillodd Wobr Dewis y Gwylwyr a'u harweinydd Mari Pritchard Wobr yr Arweinydd.

Roedd gan dre' Llandeilo le i ddathlu hefyd wedi i Ysgol Gymraeg Teilo Sant ennill tlws Côr Cymru Cynradd nos Sadwrn 6 Ebrill ar lwyfan y Neuadd Fawr, Aberystwyth.

Yn y rownd derfynol fe wnaeth y côr ysgol gynradd o Sir Gar guro Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn, Porth, Ysgol Gymraeg Llangennech ac Ysgol Pen Barras, Rhuthun i godi'r tlws.

Roedd arweinydd y côr Nia Clwyd wrth ei bodd gyda'r llwyddiant; "Yn syml - diolch yw fy nghân! Yn fwyaf pwysig i ddisgyblion Ysgol Gymraeg Teilo Sant - criw bywiog, ymroddedig o gymeriadau sy'n mwynhau canu a pherfformio. Mae'n bleser bod yn rhan o'r tîm yma, tîm sy'n cynnwys hefyd y pennaeth, staff a rhieni'r disgyblion. Mae'r gefnogaeth a'r parodrwydd i gydweithio yn arwain at lwyddiant. Diolch i chi.

"Ymlaen yw'r nod nawr - gydag Eisteddfod yr Urdd ar y gorwel - a'r holl gyfleoedd mha honno'n ei gynnig i'n hieuenctid. Dwi'n teimlo hi'n fraint ac yn gyfrifoldeb wrth cael cydweithio gyda phlant a phobl ifanc… ac er ambell i flewyn gwyn, maen nhw'n cadw person yn ifanc!"

Roedd yna dri beirniad o fri rhyngwladol yn beirniadu'r gystadleuaeth ac yn dewis yr enillwyr, sef yr arweinydd a darlithydd corawl o wlad Pwyl, Anna Wilczewska, Huw Humphreys, Pennaeth Cerdd Canolfan y Barbican, Llundain, Karmina ©ilec, Cymrawd ym Mhrifysgol Havard, Arweinydd a Chyfarwyddwr o Slofenia.

Mae Côr Cymru wedi datblygu yn un o uchafbwyntiau'r calendr canu cystadleuol yng Nghymru ers i'r gystadleuaeth ddechrau yn 2003. Yr enillwyr blaenorol yw Ysgol Gerdd Ceredigion (2003 a 2009), Serendipity (2005), Cywair (2007 a 2011), Côr y Wiber (2013), Côr Heol y March (2015) a Chôr Merched Sir Gâr (2017).

2017 oedd y tro cyntaf i enillydd Côr Cymru gynrychioli'r wlad yn Eurovision Choir ac fe ddaeth Côr Merched Sir Gâr yn ail.

Mae S4C newydd gyhoeddi y bydd y sianel yn cynnal cystadleuaeth am yr ail flwyddyn yn olynol i ddewis seren ifanc i gynrychioli Cymru yng nghystadleuaeth Junior Eurovusion 2019.

Y cwmni teledu gwobrwyol Rondo Media sy'n gyfrifol am y rhaglenni Cor Cymru a'r Eurovision ar gyfer S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?