S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Lansio platfform comedi digidol S4C Comedi

Nid hen grefft yw comedi - mae'r genre mor fyw ac erioed yn y Gymraeg, yn ôl Comisiynydd Cynnwys Adloniant S4C, Elen Rhys, ac mae hafan gomedi digidol newydd y sianel yn sicr yn dystiolaeth o hynny.

Yr wythnos hon (11 Mehefin), bydd S4C yn lansio S4C Comedi, platfform comedi digidol newydd sbon, i hawlio'i le fel yr unig blatfform comedi digidol yn y Gymraeg. Gyda nifer o gynnwys ffurf-fer gwreiddiol yn barod wedi eu comisiynu ar gyfer y platfform, mae S4C Comedi, fydd ar gael ar Facebook a YouTube, wedi ymroi i ddatblygu a meithrin talent gomedi yn yr iaith.

Meddai Elen Rhys: "Mae hi'n gyfnod cyffrous iawn i gomedi yng Nghymru, yn enwedig ar ôl derbyn dau enwebiad yn ddiweddar am gomedi yn yr Ŵyl Cyfryngau Celtaidd.

"Mae lansio S4C Comedi yn gyfle i ddatblygu a meithrin talent gomedi yn y Gymraeg. Nid hen grefft yw comedi, mae mor fyw ag erioed yn y Gymraeg ac mae S4C am glodfori hynny gan roi llwyfan teilwng i'r genre, gan amlygu gweithiau awduron, comediwyr a chynhyrchwyr talentog.

"Pan galwon ni allan am gynnwys comedi, roedd y tîm comisiynu wedi eu synnu ar yr ochr orau ar y cynifer o ddeunydd ddaeth i law. Mi rydym ni'n edrych mlaen yn fawr i arddangos rhai o'r gweithiau hynny ar blatfform S4C Comedi."

Ymhlith y gweithiau sy'n barod wedi eu comisiynu gan S4C mae Pwnc Pum Munud, cyfres stand-yp gyda chynnwys wedi eu casglu o nosweithiau comedi ar hyd a lled y wlad. Hefyd, cyfres o ganeuon dychanol o dan yr enw Bip, wedi eu cynhyrchu gan Griff Lynch ac yn serennu'r comedïwr Carys Eleri, yn ogystal â Diawl o Ddet gydag Esyllt Sears. Ymhlith y cynnwys eraill mae gweithiau gan awduron megis Catrin Dafydd, Gruffudd Owen a llawer mwy.

Meddai Esyllt Sears: "Mae'r sin stand-yp Cymraeg, a chomedi yn gyffredinol, yn profi cyfnod ofnadwy o gyffrous ar hyn o bryd, gyda nifer cynyddol o gyfleoedd ar gael i gomedïwyr newydd a rhai sydd wedi sefydlu enw i'w hunain eisoes.

"Ond er mwyn i gomedi mewn unrhyw iaith aeddfedu a chryfhau, mae'n hollbwysig bod sgriptwyr, perfformwyr a chyfarwyddwyr yn cael cyfle i arbrofi a datblygu syniadau, a dyna be dwi'n gobeithio bydd y platfform newydd yma'n darparu."

Mae S4C Comedi yn ychwanegiad at bortffolio digidol gyfoethog S4C, sy'n cynnwys S4C Dysgu Cymraeg, S4C Chwaraeon, Cyw a Hansh, sianel S4C ar gyfer y gynulleidfa iau, a ddenodd 7 miliwn o sesiynau gwylio ar draws blatfformau'r cyfryngau cymdeithasol yn y flwyddyn ddiwethaf.

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C: "Gyda mwy o amser yn cael ei dreulio ar wylio teledu ar alw, mae S4C wedi ymroi i ddatblygu eu cynnwys ar-lein. Rydym ni'n gyffrous iawn i lansio'r platfform newydd fydd yn adlonni ein cynulleidfa ddigidol, gan gynnig lle i dalent Gymraeg feithrin a datblygu."

Daw lansiad y platfform newydd law yn llaw â chyfres newydd yn serennu'r comedïwr enwog Elis James. Mae Nabod y Teip, sy'n dechrau nos Fercher ar S4C, yn cynnwys Elis yn neidio'n ddwfn i archif S4C i ganfod y gwahanol 'deips' o bobl sy'n crwydro Cymru.

Dywedodd y cyflwynydd radio 5Live, Elis James: "Dw i'n edrych ymlaen yn fawr at S4C Comedi. Nawr does dim esgus 'da chi i beidio gwylio fy nghomedi unrhyw awr o'r dydd!"

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?