S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch rygbi Cwpan Her Ewrop yn fyw ar S4C​

05 Tachwedd 2019

Mae S4C wedi arwyddo cytundeb i ddarlledu gemau byw rhanbarthau Cymru yng Nghwpan Her Ewrop y tymor hwn.

Gyda thri o'r rhanbarthau yn cystadlu am y tlws eleni, bydd cyfle i gefnogwyr wylio un gêm grŵp yn fyw bob wythnos wedi S4C gytuno gyda deiliad yr hawliau darlledu, BT Sport, ac EPCR.

Mae'r ddwy gêm gyntaf i'w weld ar y sianel wedi eu dewis. Yn rownd un, fe fydd y gêm yn Grŵp Dau rhwng Scarlets a Gwyddelod Llundain, i'w weld yn fyw ar S4C ar nos Sadwrn 16 Tachwedd.

Yr ail gêm fydd yn cael ei ddarlledu'n fyw yw'r ornest rhwng Gleision Caerdydd a Chaerlŷr ar nos Sadwrn 23 Tachwedd.

Bydd pedwar gêm grŵp ychwanegol yn cael eu dangos, gyda dwy gêm ym mis Rhagfyr a dwy ym mis Ionawr 2020. Bydd sylwebaeth iaith Saesneg ar gael ar gyfer rhai o'r gemau.

Mi fydd BT Sport yn parhau i ddangos gemau Cwpan Her ar draws y Deyrnas Unedig, gan gynnwys gemau rhanbarthau Cymru. Mi fydd pedwar gêm yn cael eu dangos yn rowndiau agoriadol y gystadleuaeth, gan gynnwys Caerlŷr v Gleision Caerdydd ar ddydd Sul 12 Ionawr.

Dywedodd Sue Butler, Comisiynydd Chwaraeon S4C: "Ar ôl Cwpan Rygbi'r Byd, mae'r ffocws yn ôl ar rygbi clwbiau a'r rhanbarthau ac mae S4C yn falch iawn o allu dangos gemau Ewropeaidd unwaith eto.

"Gyda thri o'r rhanbarthau yng Nghwpan Her Ewrop, bydd gêm fyw i'w weld yn y chwe rownd gyntaf yn ystod rownd y grwpiau ac rydym yn edrych ymlaen yn eiddgar at y gêm gyntaf ym Mharc y Scarlets."

Gemau Byw Cwpan Her Rygbi Ewrop ar S4C:

Nos Sadwrn 16 Tachwedd – Scarlets v Gwyddelod Llundain – 7.45pm

Nos Sadwrn 23 Tachwedd – Gleision Caerdydd v Caerlŷr – 8pm

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?