S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​S4C yn derbyn dros £500,000 i ddatblygu cynnwys i blant a phobl ifanc

07 Tachwedd 2019

Mae S4C wedi llwyddo i fod ymhlith y darlledwyr cyntaf i dderbyn nawdd o'r Young Audiences Content Fund. Bydd y sianel yn derbyn dros £500,000 ar gyfer datblygu cynnwys i blant a phobl ifanc.

Mae'r gronfa sy'n cael ei reoli gan y BFI (British Film Institute) yn cynnwys £57 miliwn o gyllid Llywodraeth gyda'r nôd o wireddu prosiectau creadigol ac ysbrydoledig i blant a phobl ifanc.

Derbyniwyd 120 o geisiadau ac mae S4C wedi llwyddo i ennill dau gomisiwn ar gyfer cyfresi drama i bobl ifanc sy'n delio gyda phynciau heriol. Bydd deunydd ychwanegol yn cael ei greu yn ogystal ar gyfer ymgysylltu gyda phobl ifanc ar y cyfryngau cymdeithasol.

Mae Person/A (Cwmni Da) yn ddrama arloesol i bobl ifanc rhwng 12-14 oed sydd wedi ei ddatblygu a'i gynhyrchu gan dîm sy'n cynnwys pobl ifanc. Mae'r themâu yn cynnwys iechyd meddwl, deallusrwydd emosiynol a chamdriniaeth.

Mae Y Gyfrinach (Boom Cymru) yn ddrama feiddgar ar gyfer pobl ifanc rhwng 14-18 oed. Mae'n taclo unigedd drwy ddilyn pum ffrind sy'n mynd ffwrdd am benwythnos gyda'i gilydd.

Yn ychwanegol mae S4C yn rhan o gomisiwn Sol (Paper Owl Films) sy'n gyd-gynhyrchiad rhwng BBC Alba, S4C a TG4.

Bydd Sol yn cael ei gynhyrchu mewn tair iaith – Cymraeg, Gaeleg a Gaeleg Albanaidd. Mae Sol yn adrodd stori ddychmygol am blentyn sy'n ceisio achub y byd yn dilyn marwolaeth ei famgu.

Bydd yr animeiddiad deimladwy hon yn helpu pobl ifanc rhwng 8-11 oed i ddeall natur galar.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae comisiynu cynnwys gwreiddiol a beiddgar i blant yn Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i S4C erioed.

"Bydd cronfa'r YACF yn golygu y gallwn ddatblygu cynnwys mwy uchelgeisiol fyth i'n gwylwyr iau gan adnewyddu apêl y sianel yn benodol i blant hŷn – grŵp oedran sydd wrth gwrs yn gwylio llai o deledu traddodiadol nag erioed o'r blaen.

"Diolch i'r gronfa mae yna gyfle hefyd i gydweithio gyda darlledwyr eraill er mwyn creu cynnwys uchelgeisiol fel animeiddiau all apelio ar lefel byd eang.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i'r cyfleoedd strategol bwysig mae'r gronfa hon wedi eu greu ac yn rhagweld bydd yn arwain at well gwasanaeth i wylwyr iau ar draws y wlad."

Meddai Jackie Edwards, Pennaeth y Young Audiences Content Fund: "Rydyn ni wedi gwirioni ar ansawdd y ceisiadau ac yn falch iawn fod S4C wedi llwyddo i ddenu nawdd o'r gronfa. Mae ymrwymiad a lefel y bartneriaeth gan y darlledwyr yn sicr yn cynorthwyo i sicrhau effaith gadarnhaol y Gronfa.

"Wrth iddynt achub ar y cyfleoedd y mae'r gronfa yn eu cynnig, ac agor eu hamserlenni a'u cyllidebau, rydym yn dod â chynnwys newydd gwych i blant a phobl ifanc. Rwy'n wirioneddol gyffrous i weld y cynyrchiadau yma gan S4C a'r darlledwyr eraill ar waith."

Lansiwyd y gronfa yn Ebrill 2019 ac o fewn chwe mis mae'r gronfa yn cyd gynhyrchu naw o gyfresi a rhaglenni gyda chwech darlledwr gwahanol sef S4C, Channel 5, ITV, BBC ALBA, TG4 a Sky.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?