10 Ionawr 2020
Mae ffilmio ar waith draw yn nhref ddiwydiannol Port Talbot wrth i'r gyfres ddrama drosedd boblogaidd ddychwelyd nôl i S4C yn 2020 gyda Bang.
Yn ddrama ddwyieithog sydd eisoes wedi ennill BAFTA Cymru a Gwobr Celtic Media, bydd y gyfres chwe rhan, sydd wedi ei chynhyrchu gan gwmni Joio, yn tanio blwyddyn arall o ddramâu cyffrous ar S4C.
Mae'r gyfres hir ddisgwyliedig yn dilyn DS Gina Jenkins (Catrin Stewart) wrth iddi geisio canfod dirgelwch cyfres o lofruddiaethau ym Mhort Talbot sy'n gysylltiedig ag achos hynafol o drais. Mae'r gyfres newydd wedi ei hysgrifennu gan yr enillydd BAFTA, Roger Williams, ac mi gafodd y gyfres gyntaf, sy'n adnabyddus am ei natur ddwyieithog, ei henwi ar restr fer Gwobr Writers' Guild.
Dywedodd Roger Williams: "Wrth wraidd yr ail gyfres hon mae stori am ddial a'r awydd i ddatgelu'r gwir am drosedd hanesyddol. Mae Bang yn cyflwyno'r stori mewn arddull unigryw trwy harneisio dwy iaith, perfformiadau cofiadwy a thirwedd ddiwydiannol syfrdanol tref ddur Port Talbot."
Bang oedd y gyfres ddrama gyntaf gan S4C i gael ei darlledu gan y BBC yn ei ffurf wreiddiol. Ers hynny, mae'r ddrama wedi ei gwerthu i leoliadau ledled y byd, gan gynnwys Gogledd America a Sweden.
Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Mae S4C yn falch iawn o weld Bang yn dychwelyd i'r sgrin yn 2020. Mae'r ddrama arloesol sydd wedi'i gosod yng nghalon un o brifddinasoedd diwydiannol Cymru wedi codi proffil drama Gymreig ar draws y byd."
Mae'r ail gyfres o Bang yn ymdrin â thema pŵer; y pŵer sydd gan rhai dynion penodol dros fenywod, a'r dyhead gan ddioddefwyr am gyfiawnder.
Taniai'r stori gyda llofruddiaeth dyn 30 oed ar lan y môr yn nhref ddur Port Talbot. Ond yn fuan iawn, mae'r ditectifs Gina Jenkins a Luke Lloyd yn dysgu mai dyma'r llofruddiaeth gyntaf mewn cyfres o lofruddiaethau sy'n gysylltiedig â chyhuddiad hanesyddol.
Ymddengys bod y llofrudd yn targedu'r dynion a gafodd eu henwi gan y fenyw leol Marissa Clarke mewn achos treisio 10 mlynedd ynghynt. Syrthiodd yr achos yn erbyn y dynion, ac ni chawsant eu dwyn o flaen eu gwell...
Ymhlith prif gast y gyfres newydd hefyd mae:
Luke (Jack Parry-Jones)
Sam (Jacob Ifan)
Linda (Nia Roberts)
Layla (Suzanne Packer)
Morgan (Dyfan Dwyfor)
Caryn (Hedydd Dylan)
Harri (Tim Preston)
Jeff (David Hayman)
Richie (Chris Gordon)
Dai (Alexander Vlahos)