S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​"Mr Nice Guy? " – Cyfweliad Guto Harri gyda Boris Johnson cyn yr Etholiad

10 Rhagfyr 2019

Mewn cyfweliad arbennig ar gyfer Y Byd yn ei Le, gaiff ei ddangos am 9.30 ar nos Fawrth 10 Rhagfyr, bydd Guto Harri yn holi cwestiynau personol i Boris Johnson, gan ofyn, "Be ddigwyddodd i Mr Nice Guy? Ai chi yw'r un person a gafodd ei ethol yn Faer ar Lundain?"

Fe weithiodd Guto Harri fel Pennaeth Cyfathrebu i Boris Johnson rhwng 2008-2012, yn ystod ei amser fel maer ar Lundain.

Yn eu cyfweliad cyntaf ers i Boris gael ei ethol yn Brif Weinidog , bydd Guto yn holi ei gyn gyfaill ar ran y darlledwr ble gychwynnodd ei yrfa newyddiadurol. Fe ofynnodd Guto sawl gwestiwn personol i Boris, gan hefyd holi am ba mor onest mae o wedi bod, a sut allai'r bobl ymddiried ynddo.

"Dyw pobl ddim yn ymddiried ynddoch chi – mae'n rhaid bod hynny'n brifo? Pam nad ydyn nhw'n eich credu chi?"

"Mae pobl yn ymosod arna i am bob math o resymau," atebodd Boris Johnson.

Yn y cyfweliad, a gynhaliwyd ym Mangor-is-y-Coed, fe dyrchodd Guto ateb ar sefyllfa Alun Cairns, Cyn Ysgrifennydd Gwladol dros Gymru.

"A fyddech chi'n rhoi swydd Alun Cairns yn ôl iddo?" gofynnodd Guto.

"Mae Alun yn sefyll yn yr etholiad a dw i'n siŵr mi fydd o'n gwneud job dda," meddai Boris.

Mi fydd Boris hefyd yn ceisio creu argraff gyda'i afael ar yr iaith:

Dywedodd yn Saesneg: "What we're doing is campaigning as a united party. If you've got a deal ready to go, pop it in the popty ping and it's done!"

Yn ystod y cyfweliad, mae Guto hefyd yn cwestiynu pam nad yw Boris yn ymddiried yn yr Undeb Ewropeaidd, gan honni bod yntau a David Cameron yn grediniol ei fod yn gefnogwr o'r UE dros y blynyddoedd.

"Guto, dw i'n gwybod dy fod di'n gefnogwr brwd o'r UE ac mi wyt ti'n gwybod fy mod i wedi bod yn Euro sceptic ers o leiaf tri degawd.

"Pan ti'n edrych ar y cyfeiriad roedd yr UE yn mynd, doedd o ddim yn iawn i ni aros, y ffordd oedd o'n datblygu i fod yn genedl enfawr ffederal wedi ei ganoli mewn un lle, ac roedd rhaid i ni adael."

"Nawr ein bod ni'n gadael, mi allwn ni wneud pethau ffantastig," ychwanegodd Boris.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?