S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Heno yn bwrw’r sgrîn ar nos Sadwrn

4 Chwefror 2020

Cyn hir bydd hyd yn oed mwy o reswm i edrych ymlaen i'r penwythnos wrth i Heno ddechrau darlledu ar nos Sadwrn.

O Chwefror 8 ymlaen bydd y rhaglen gylchgrawn boblogaidd yn cynnig rhywbeth gwahanol i'r arfer am hanner awr pob nos Sadwrn.

Wrth ddarlledu'n fyw ar S4C am 7.30 o leoliadau ar draws Gymru, bydd y rhaglen yn rhoi cipolwg ar ddigwyddiadau'r dydd a rhoi syniad o sut mae pobl yn treulio eu penwythnosau.

Bydd cyfle i'r cyhoedd rannu straeon o phob cŵr o Gymru, boed yn sgôr gem pel-droed, llun o briodas odidog neu clip o gôr yn canu.

Sut bynnag y byddwch yn treulio eich nos Sadwrn, beth am wahodd criw Heno?

Yn ôl Elin Fflur, un o gyflwynwyr Heno: "Bydd darlledu ar nos Sadwrn yn gyfle gwych i fod yn ran o ddigwyddiadau hollol wahanol i'r arfer. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael ymuno hefo'r hwyl ar hyd a lled y wlad a gweld sut mae pobl yn mynd ati i ymlacio a mwynhau eu hunain. Mi wneith hi sioe anygoel".

Cyngerdd John ac Alun yn Galeri Gaernarfon fydd canolbwynt y rhaglen gyntaf, gan symud ymlaen i Wŷl Gwrw a Seidr, Llambed yr wythnos ganlynol. Methu mynd i gig Huw Chiswell yng Nghlwb y Bont, Pontypridd, i ddathlu Gŵyl Dewi?

Na phoener, bydd Heno yno wrth i'r canwr eiconig gamu i'r llwyfan. Hoff o'r Theatr? Bydd y criw yn darlledu o Theatr Clwyd un wythnos i ddod a pherfformiad Al Lewis o'i albwm Te yn y Grug i'ch cartref. Bydd y camerâu hefyd yn dilyn yr hwyl a'r miri o Glwb Rygbi Rhuthun ar brynhawn gêm rygbi'r chwe gwlad, Iwerddon yn erbyn Cymru.

"Mae'n argoeli bydd rhywbeth at ddant bawb. Aelod o glwb? Dyma eich cyfle i serennu fel rhan o 'Clwb Ni', eitem wythnosol ar grwpîau lleol. Clwb Ffermwyr Ifanc Penparc, Ceredigion, fydd un o'r cyntaf i gael sylw" meddai Elin.

Bydd olwyn Ffansi Ffortiwn yn mynd ar daith gyda'r criw, sy'n golygu bydd siawns i wylwyr ennill hyd at fil o bunnau pob wythnos.

Ond, bydd y cyflwynwyr yn camu'n nôl i roi cyfle i grwp lleol droi yr olwyn a bod yn rhan o gyffro'r gêm a chael gwobr am eu hymdrechion.

Gyda'r cyfan yn darlledu'n fyw ar S4C, bydd yn adloniant gwerth chweil. Pa ffordd gwell i dreulio nos Sadwrn na dal fyny gyda hanesion y dydd yng nghwmni criw Heno?

Bydd cynnig rhaglen ychwanegol o Heno ar nos Sadwrn yn arwain y ffordd i sawl newid i amserlen S4C.

Wedi trafod a gwrando ar farn y gwylwyr, bydd y sianel yn lansio amserlen newydd sbon ar 24 Chwefror, un sydd wedi ei lunio i gysoni rhaglenni newyddion ac operâu sebon, a gallu cynnig cyfresi newydd cyffrous.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?