S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Amserlen newydd S4C - Gwneud y dewis yn hawdd i chi​

17 Chwefror 2020

Bydd S4C yn lansio amserlen newydd sbon ar nos Lun 24 Chwefror – eich amserlen chi.

Rydyn ni wedi trafod a gwrando ar farn ein gwylwyr ac mae'r amserlen wedi ei llunio er mwyn cysoni rhaglenni newyddion ac operâu sebon, a chynnig cyfresi newydd cyffrous.

O 24 Chwefror ymlaen bydd modd i chi fwynhau:

- Newyddion - nos Lun i Gwener am 7.30

- Pobol y Cwm - nos Lun i Iau am 8.00 gyda rhifyn estynedig ar nos Fercher

- Rownd a Rownd - nos Fawrth a Iau am 8.25

- Ffermio - yn symud i 9.00 ar nos Lun

- Cyfresi cyfarwydd a newydd am 9.00 o nos Lun i nos Iau gan ddechrau gyda Corau Rhys Meirion, Ysgol ni: Maesincla, Cynefin a Jonathan.

- Chwaraeon byw ar nos Wener

- Heno - bydd Heno yn aros am 7.00 ar nos Fawrth a nos Iau, ond yn newid i 6.30 ar nos Lun, Fercher a Gwener. Yn ogystal, bydd pennod ychwanegol byw o Heno yn cael ei ddangos ar nos Sadwrn, am 7.30

I nodi wythnos lansio'r amserlen newydd, bydd pennod byw arbennig o Ffermio: Wyna Byw yn cael ei ddarlledu yn ei slot darlledu newydd, am 9.00 ar nos Lun 24 Chwefror.

Bydd y bennod yn cael ei ffilmio'n fyw o sied ddefaid ar fferm y cyflwynydd Meinir Howells, yn ystod un o adeg prysuraf y flwyddyn i ffermwyr, sef y tymor wyna

Mae'r newidiadau i'r amserlen yn dilyn sawl cyfarfod gyda gwylwyr S4C, o bob oedran a chefndir, mewn grwpiau ffocws a nosau gwylwyr ledled y wlad.

Dywedodd Amanda Rees: "Ry'n ni wedi holi ein gwylwyr am ba gyfresi maen nhw'n mwynhau fwyaf a phryd mae nhw am eu gwylio. Atebion y gwylwyr i'r cwestiynau yma sydd wrth wraidd y newidiadau i'n hamserlen rhaglenni newydd.

"Y bwriad yw creu patrwm mwy cyson i'n cynnwys bob nos, gan roi sylfaen cadarn i rai o gyfresi mwyaf poblogaidd S4C tra hefyd yn rhoi hyblygrwydd i ni ddangos cyfresi newydd mewn slot darlledu hwyrach. Ni'n gobeithio ein bod ni wedi gwneud S4C yn ddewis haws i wylio, i bawb."

Amserlen Nosweithiol S4C - 24 Chwefror - 1 Mawrth

Nos Lun 24 Chwefror

18:30 Heno

19:30 Newyddion S4C a'r Tywydd

20:00 Pobol y Cwm

20:25 Dan Do

20:55 Newyddion S4C a'r Tywydd

21:00 Ffermio: Wyna Byw

22:00 Clwb Rygbi: Scarlets V Southern Kings

23:45 Diwedd/Close

Nos Fawrth 25 Chwefror

19:00 Heno

19:30 Newyddion S4C a'r Tywydd

20:00 Pobol Y Cwm

20:25 Rownd A Rownd

20:55 Newyddion S4C a'r Tywydd

21:00 Cynefin: Tyddew

22:00 Walter Presents: Yr Un Awyr

23:00 Nyrsys

23:30 Afal Drwg Adda

00:35 Diwedd/Close

Nos Fercher 26 Chwefror

18:30 Heno

19:30 Newyddion S4C a'r Tywydd

20:00 Pobol y Cwm

20:55 Newyddion S4C a'r Tywydd

21:00 Ysgol Ni: Maesincla

22:00 Mwy o Sgorio

22:30 Priodas Pum Mil: Sioned A Kenny

23:35 Diwedd/Close

Nos Iau 27 Chwefror

19:00 Heno

19:30 Newyddion S4C a'r Tywydd

20:00 Pobol y Cwm

20:25 Rownd a Rownd

20:55 Newyddion S4C a'r Tywydd

21:00 Corau Rhys Meirion: Gwirfoddolwyr

22:00 Lŵp: Curadur

22:30 Hansh

23:00 Y Stiwdio Gefn

23:30 Mwy o Sgorio

00:05 Diwedd/Close

Nos Wener 28 Chwefror

18:30 Heno

19:30 Newyddion S4C a'r Tywydd

19:55 Sgorio: Y Fflint v Prestatyn

22:00 Noson Lawen: Ceredigion

23:00 Bang

00:05 Diwedd/Close

Dydd Sadwrn 29 Chwefror

17:00 Clwb Rygbi: Dreigiau v Cheetahs

19:15 Newyddion a Chwaraeon

19:30 Heno Nos Sadwrn

20:00 Can i Gymru

22:00 Dim Byd: Dim Byd Fel Can i Gymru

22:30 Lwp: Curadur - Ani Glass

23:00 Hansh

23:35 Diwedd/Close

Dydd Sul 1 Mawrth

17:25 Pobol y Cwm Omnibws

19:15 Newyddion a Chwaraeon

19:30 Dechrau Canu Dechrau Canmol: Dydd Gwyl Dewi

20:00 Priodas Pum Mil

21:00 Bang

22:00 Pobol Port Talbot

22:30 Corau Rhys Meirion

23:35 Diwedd/Close

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?