S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn cychwyn archwiliad ym Mhencadlys S4C

9 Mawrth 2020

Yn ddiweddar ymwelodd archwilwyr o'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn Llundain â Phencadlys S4C, Canolfan S4C Yr Egin yng Nghaerfyrddin i ddechrau'r archwiliad blynyddol o gyfrifon y sianel. Roedd yr adolygiad annibynnol i'r sianel a gyhoeddwyd gan y DCMS ym mis Mawrth 2018 yn argymell y dylai'r Archwilydd Cyffredinol fod yn archwilydd allanol S4C gyda'r nod o wella tryloywder a goruchwyliaeth seneddol.

Hwn oedd yr ymweliad gwaith maes cyntaf yn dilyn nifer o gyfarfodydd a sgyrsiau ar-lein. Arhosodd swyddogion y Swyddfa Archwilio Genedlaethol yn lleol yng Nghaerfyrddin yn ystod eu hymweliad.

Dywedodd Sharon Winogorski, Prif Swyddog Ariannol S4C: "Mae wedi bod yn wych croesawu swyddogion o'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol i'n Pencadlys newydd, Yr Egin, gan roi blas iddynt o fywyd yng Ngorllewin Cymru! Penodwyd yr Archwilydd Cyffredinol yn archwilwyr allanol yn dilyn adolygiad yn 2018 ac rydym yn falch y byddant yn gweithio gyda ni i sicrhau ein bod yn cyflawni ein hamcanion yn y ffordd fwyaf cost-effeithiol. "

Dywedodd Lewis Knights, Cyfarwyddwr NAO sy'n gyfrifol am S4C: "Rydym yn falch o fod yn cynnal archwiliad blynyddol S4C ac yn gweithio gyda'r staff yng Nghaerfyrddin. Fel yr unig sianel Gymraeg, mae S4C mewn safle unigryw ym maes darlledu'r DU, ac edrychwn ymlaen at ehangu ein profiad trwy gyhoeddi ein barn archwilio yn yr iaith Gymraeg. "

Yn y llun: Archwilwyr o'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol gyda staff cyllid S4C.

NODIADAU

Bydd Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon S4C yn cael eu gosod gerbron y Senedd ddechrau'r haf a'u cyhoeddi ar unwaith yn dilyn hynny.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?