S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

10 enwebiad Celtaidd i S4C

12 Mawrth 2020

Mae S4C wedi derbyn deg enwebiad ar gyfer Gwobrau Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2020.

Cynhelir yr ŵyl eleni yn Quimper yn Llydaw rhwng 2-4 Mehefin 2020. Mae'r ŵyl yn hyrwyddo ieithoedd a diwylliannau gwledydd Celtaidd yn y cyfryngau.

Yn derbyn enwebiad yn categori Celfyddydau mae rhaglen ddogfen bry ar y wal Meic Stevens: Dim ond Cysgodion (Cwmni da).

Derbyniodd S4C ddwy enwebiad yn y categori rhaglen blant sef Shwshaswyn (Cwmni Da) a chyfres sombis lwyddiannus Prosiect Z (Boom Cymru) sydd eisoes wedi ennill gwobrau BAFTA UK ac RTS rai blynyddoedd yn ôl.

Enwebwyd dwy gyfres hefyd yn y categori Adloniant hefyd sef Bwyd Epic Chris (Cwmni Da) a Prosiect 5 Mil (Boom Cymru).

Derbyniodd Enid a Lucy (Boom Cymru) a Pili Pala (Triongl) enwebiad yn y categori Drama a derbyniodd Cân i Gymru: Dathlu'r 50 (Avanti) enwebiad yn y categori Dogfen Adloniadol.

Yn ogystal llwyddodd Merched Parchus (Cynhyrchiadau Ie Ie) i gael enwebiad yn y categori Drama Fer a cafodd Blwyddyn Bry (Boom Cymru) enwebiad yn y categori Ffurf Fer.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:

"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r ŵyl eleni. Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws yr amserlen. Pob lwc i bawb yn Quimper fis Mehefin."

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?