S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Enillydd Ysgoloriaeth T Glynne Davies 2019-20 wedi ei gyhoeddi

20 Mawrth 2020

Mae S4C wedi cyhoeddi mai Siôn Tootill yw'r myfyriwr ôl-radd sydd wedi ennill Ysgoloriaeth T Glynne Davies ar gyfer 2019-20.

Mae Siôn, sydd yn 22 oed, yn astudio cwrs MA mewn Newyddiaduraeth Darlledu yn yr Ysgol Newyddiaduraeth, y Cyfryngau a Diwylliant, ym Mhrifysgol Caerdydd.

Yn dilyn anfon ffurflen gais am yr ysgoloriaeth, roedd Siôn ymysg rhestr fer o fyfyrwyr ôl-raddedig a eisteddodd brawf newyddiadurol, cyn cael eu cyfweld gan banel S4C, yn cynnwys Geraint Evans, Comisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes y sianel a Manon Wyn James, Pennaeth Tîm y wasg.

Wedi'r prawf a'r cyfweliadau, dewiswyd Siôn, sy'n hanu o Lanelli, fel enillydd yr ysgoloriaeth.

Fel rhan o'r wobr, mi fydd Siôn yn derbyn bwrsari ariannol o £6,500 yn ogystal a'r cyfle i gael profiad gwaith gyda tîm newyddion BBC Cymru, adran materion cyfoes ITV Cymru ac adran y wasg S4C.

Dywedodd Siôn: "Mi fyddai unrhyw un yn hapus gyda'r wobr ariannol ac mi ydw i yn ddiolchgar iawn am hynny, ond beth oeddwn i moyn mwy nag unrhyw beth, oedd y profiad o allu defnyddio fy Nghymraeg o fewn y byd newyddiaduraeth, a cheisio gwella safon fy Nghymraeg.

"Rwy'n gobeithio gweithio o fewn y byd radio a theledu, ac felly mae'r profiad gwaith yma yn berffaith i mi.

"Mae cael y cyfle i gyd-weithio gyda newyddiadurwyr profiadol, sydd gyda'r holl sgiliau yn barod, yn mynd i helpu i fynd lan i'r lefel nesaf, rwy'n gobeithio.

"Mae cyflwynydd Newyddion S4C, Bethan Rhys Roberts, wedi cynnal sesiynau gyda ni ar ein cwrs Meistr ac mae hi wedi sôn am ba mor fanteisiol i'w gyrfa hi oedd cael y gallu i siarad Cymraeg, a faint fwy o gyfleoedd mae hynny wedi cynnig iddi hi.

"Mae'r cwrs yn wych ac wedi rhoi blas i mi ar bob elfen o newyddiaduraeth. Y peth gorau yw pa mor brysur rydyn ni ar y cwrs.

"Er ein bod ni'n paratoi am y naid i fewn i brysurdeb y byd gwaith, mae'n teimlo fel bod y cwrs â'r cyfnodau profiad gwaith 'da ni'n mynd arnynt, wedi helpu gwneud y naid ychydig yn llai i ni."

Sefydlwyd yr ysgoloriaeth fel teyrnged i'r bardd, nofelydd, newyddiadurwr a darlledwr T. Glynne Davies a fu farw yn 1988.

Cynigir yr ysgoloriaeth i gynorthwyo myfyrwyr i ddilyn cwrs ôl-raddedig yng Nghanolfan Astudiaethau Newyddiaduraeth ym Mhrifysgol Caerdydd, fel rhan o ymrwymiad S4C i ddatblygu sgiliau yn y diwydiant yng Nghymru.

Mae nifer o bobl sydd wedi derbyn yr ysgoloriaeth dros y blynyddoedd bellach yn newyddiadurwyr amlwg yn y maes yng Nghymru, gan gynnwys Sian O'Callaghan, Pennaeth Newid BBC Cymru, newyddiadurwyr gyda'r BBC, Ben Price, Steffan Powell, Rhiannon Wilkins, Rhys Williams, Gwenllïan Glyn a Megan Davies a gydag ITV Cymru, Bethan Muxworthy.

Dywedodd Sali Collins, Cyfarwyddwr Cwrs MA Newyddiaduraeth Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd: "Rydym yn hapus iawn dros Siôn.

"Mae'n ymuno â grŵp o bobl sydd wedi mynd ymlaen i ddilyn gyrfaoedd llwyddiannus yn y byd darlledu, newyddiaduraeth a materion cyfoes, gyda chefnogaeth gan S4C ac Ysgoloriaeth T Glynne Davies."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?