S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Hansh yn denu 1 miliwn o sesiynau gwylio mewn mis

26 Mawrth 2020

Mae gwasanaeth S4C i bobl ifanc Hansh wedi denu un miliwn o sesiynau gwylio mewn un mis ar draws Twitter, Facebook ac YouTube am y tro cyntaf erioed.

Lansiwyd Hansh ym mis Mehefin 2017 er mwyn cynnig platfform a chynnwys unigryw i bobl ifanc rhwng 16 – 34.

Ers hynny mae'r gwasanaeth wedi datblygu o fod yn gweithredu ar Facebook ac YouTube yn unig i fod yn creu cynnwys ar Instagram a TikTok yn ogystal â chreu podlediadau.

Mae'r cynnwys mis hwn wedi cyrraedd ystadegau uchel ar draws y platfformau. Llwyddodd fideo 'Tisio Salwch' i ddenu 110,000 o sesiynau gwylio ar Facebook gyda Fideo Bootlegger yn denu 280,000 o sesiynau gwylio ar Twitter.

Bellach mae rhai o gymeriadau Hansh yn gyfarwydd i Gymry led led y byd gan gynnwys Gareth yr Orangutan, 'Tishio grêp' a chymeriadau dychanol yr actor Geraint Rhys Edwards.

Youtube - Hansh - Y Bobl Chi'n Mynd i Weld yn Ysgol

Yn dilyn llwyddiant fideos cymeriadau Geraint Rhys Edwards ar y cyfryngau cymdeithasol mae rhaglen gomedi newydd ar y gweill gan S4C o'r enw Cymry Feiral lle bydd gwylwyr yn mwynhau dod i adnabod y cymeriadau yma'n well.

Yn ogystal ag elfennau comedi mae Hansh yn ddiweddar wedi cynhyrchu cyfres o raglenni dogfen gan gynnwys rhaglen am y dylanwadwr Niki Pilkington, Garmon Ion a phobl Patagonia a Ffoadur Maesglas yn dilyn hanes dau ffoadur o Syria sef Muhaned a'i fab Shadi.

Mae Hansh hefyd wedi datblygu Hansh Dim Sbin, er mwyn cynnig cynnwys newyddiadurol, Newyddion a Materion Cyfoes i'r gynulleidfa.

Meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Ar-lein S4C:

"Dwi'n falch iawn o weld sut mae Hansh wedi datblygu ac mae'r ffigurau yma yn profi fod y cynnwys sy'n cael ei greu yn taro deuddeg gyda'n cynulleidfa.

"Mae'n bwysig fod Hansh yn ymateb i'r hyn sy'n digwydd yn y byd ac yn trafod pynciau o bwys gyda'n cyfranwyr.

"Bydd Hansh Dim Sbin yn rhoi gwybodaeth ac adroddiadau dyddiol am y sefyllfa Covid-19 a bydd hefyd cynnwys iechyd meddwl bob dydd Mercher dan #MercherMeddwl.

"Ac yn ôl yr arfer bydd digonedd o adloniant a chomedi a chynnwys dogfen i adlewyrchu bywydau ein cynulleidfa ni ledled Cymru a'r byd yn ystod y cyfnod anodd yma."

Hansh

Facebook - www.facebook.com/hanshs4c

Twitter - https://twitter.com/hanshs4c

Youtube - https://www.youtube.com/hanshs4c

TikTok - https://www.tiktok.com/@hanshs4c

Instagram - https://www.instagram.com/hanshs4c

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?