S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Coronafeirws... stori newyddion fwyaf ein byd?

07 Ebrill 2020

Mae pawb yn addasu eu ffyrdd o weithio yn ystod y cyfnod heriol hwn, gyda miloedd ar filoedd yn troi at weithio o adref. Yr un yw'r achos i gyfresi teledu, ond mewn cyfnod ble mae newyddiaduraeth yn bwysicach nag erioed, dyw'r gyfres materion cyfoes Y Byd Ar Bedwar ddim am i hynny fod yn rhwystr.

Dychwelodd y gyfres i'n sgrin ar y 1 Ebrill, ac mi fydd yn parhau am y chwe wythnos nesa' ar S4C bob nos Fercher am 8.00.

"Mae'n rhaid i ni addasu'n ffordd o weithio, ond mae dyletswydd arnom ni i rannu gwybodaeth a newyddion beiddgar drwy ddangos beth yn union sy'n mynd ymlaen yn ystod y cyfnod yma. Mae rhaid i ni fod ar dop ein gêm wrth i ni newid i'r 'normal' newydd," meddai Siôn Jenkins, sy'n ymuno â thîm cyflwyno Y Byd ar Bedwar y gyfres hon.

"Am y tro cyntaf ers y 1990au, mi fyddwn ni'n cyflwyno'r gyfres o stiwdio ITV Cymru ym Mae Caerdydd, a fydda' i neu Dot Davies yn angori. O dan yr amgylchiadau, penderfynon ni y byddai'n saffach i ni gyflwyno'r rhaglen o'r stiwdio."

Cyflwynodd Siôn dair cyfres o Ein Byd cyn ymuno â thîm Y Byd ar Bedwar.

"Ar ôl bron i dair blynedd gydag Ein Byd, fi'n symud lan i weithio 'da chwaer fawr y gyfres nawr. Mae hi am fod yn heriol am sawl rheswm, ond fi'n teimlo cyfrifoldeb proffesiynol yn ganol hyn i gyd. Falle mai'r coronafeirws fydd y stori fwyaf i mi weithio arni fel newyddiadurwr - ti moyn neud y mwyaf o'r cyfle.

"Mae gymaint o bethau gwahanol yn hedfan o gwmpas y lle, gan gynnwys llawer o wybodaeth anghywir hefyd. Mae angen sicrhau bod y wybodaeth gywir, glir am y sefyllfa yn mynd allan i'r bobl. Mae hyn yn brawf bod angen newyddiaduraeth dda, feiddgar arnom ni nawr fwy nag erioed."

Yn ystod y gyfres, bydd criw Y Byd ar Bedwar yn gobeithio cael gafael ar y bobl sy'n gweithio wyneb yn wyneb â'r coronafeirws, gan hefyd sgwrsio gydag aelodau mwyaf bregus ein cymdeithas i weld sut maen nhw'n dygymod â'r sefyllfa.

Ychwanegodd Siôn: "Mae am fod yn her cael yr access 'na i fywydau pobl, yn enwedig y bobl fregus, a'r staff sy'n gweithio ar y front line yn ein hysbytai. Ni nawr yn dibynnu ar dechnoleg fwy nag erioed, heb anghofio'r bobl i rannu eu straeon."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?