S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

47 Copa yn ennill gwobr Ffilm Antur Orau

30 Ebrill 2020

Mae'r ffilm 47 Copa, sy'n dilyn her anferthol y rhedwr mynydd Huw Jack Brassington, wedi ennill y wobr Ffilm Antur Orau yng ngŵyl ffilmiau London Mountain Film Festival.

Mae'r ffilm, sef fersiwn newydd o bennod olaf y gyfres 47 Copa: Her Huw Jack Brassington, yn dilyn yr anturiaethwr a'r rhedwr mynydd wrth iddo fynd ati i geisio cyflawni Her 47 Copa Paddy Buckley.

Mae'r sialens eiconic ac enfawr yma yn golygu rhedeg 100 cilomedr a dringo 8,000 metr dros 47 o fynyddoedd mwyaf Eryri - yr oll mewn 24 awr.

Ond, pan mae storm fawr yn taro Eryri, mae'r gamp sydd eisoes yn un anferthol yn troi i fod bron yn amhosib.

Wrth i Huw frwydro yn erbyn y tywydd, mae'n gorfod gwthio ffiniau ei gryfder, ei feddwl a'i ddyfalbarhad ymhellach nag y mae erioed wedi ei wneud o'r blaen.

Dywedodd Huw Erddyn, Cynhyrchydd y ffilm: "Mewn cyfnod mor anodd i bawb, mae'n grêt cael newyddion fel hyn ac mae'n deimlad gwych ennill gwobr gyda ffilm yn yr iaith Gymraeg mewn gŵyl ffilm yn Llundain!

"Mi roedd ffilmio ar fynyddoedd Eryri yng nghanol storm anferth yn un o'r pethau anoddaf dwi erioed wedi'i wneud. Mi wnaeth pawb oedd yna ar y diwrnod waith anhygoel mewn amgylchiadau anodd dros ben.

"Ond mae prif glod am lwyddiant y ffilm yn mynd i Huw Jack Brassington am fod yn ddigon penderfynol, dewr a gwirion i redeg 100km dros 47 mynydd mewn ffasiwn dywydd!

"Diolch i bawb o Cwmni Da wnaeth weithio ar y prosiect ac i S4C am gefnogi'r syniad."

Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda COVID-19, mae'r ŵyl yn un rhithiol eleni a bydd y ffilm ar gael i'w ffrydio'r penwythnos yma drwy gofrestru ar wefan London Mountain Festival: https://www.londonmountainfestival.com/

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?