S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​​S4C yn nodi Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2020 gyda rhaglenni ac eitemau arbennig

18 Mai 2020

Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl 2020, bydd S4C a Hansh yn darlledu cyfres o eitemau a rhaglenni arbennig yn rhoi sylw i'r problemau iechyd meddwl sy'n effeithio'r genedl.

Rhwng dydd Llun 18 Mai a dydd Sul 24 Mai eleni, bydd platfformau'r sianel yn codi ymwybyddiaeth o'r pynciau amrywiol sy'n peri pryder i bobl, gan rannu profiadau unigolion a chynnig cymorth am sut i ymdopi gyda phroblemau iechyd meddwl.

Drwy gydol yr wythnos, bydd cyfresi Prynhawn Da a Heno yn dangos sawl eitem sy'n ymdrin â'r pwnc iechyd meddwl.

Ar Prynhawn Da, i'w weld am 2.00 o ddydd Llun i dydd Gwener, bydd eitemau yn trafod sut mae pobl yn galaru, yn cynnig cyngor ar sut i ymdopi gyda straen ac yn rhannu ymarferion anadlu a myfyrio effeithiol.

Bydd Heno, sydd ymlaen am 6.30 ar nos Lun, Mercher a Gwener a 7.00 ar nos Fawrth a Iau, yn siarad gyda sawl person sy'n cyfrannu i flog y gwefan meddwl.org ac yn trafod sut all ymarfer corff a bwyta'n iach helpu.

Bydd y gyfres Ffermio, sydd ymlaen ar nos Lun am 9.00, yn edrych ar ba gymorth sydd ar gael i unigolion sy'n dioddef o unigrwydd a phroblemau iechyd meddwl ac yn siarad gydag un o sylfaenwyr elusen iechyd meddwl sydd yn cynnig cymorth penodol i'r gymuned amaethyddol.

FFIT Cymru, Nos Fawrth am 9.00.

Bydd FFIT Cymru, y gyfres sydd yn trawsnewid iechyd a lles meddyliol pum arweinydd, yn parhau am 9.00 ar nos Fawrth, ac mae sesiynau iechyd meddwl gan seicolegydd y gyfres, Dr Ioan Rees, hefyd i'w weld ar gyfrifon Facebook, Twitter a Youtube FFIT Cymru.

Ar nos Fercher am 8.00, bydd Y Byd ar Bedwar yn edrych ar y ffaith fod pobl yn ei gweld hi'n anodd cael gafael ar wasanaethau iechyd meddwl yn ystod y cyfnod clo, yn sgil y pandemig COVID-19.

Cawn glywed stori Joe Williams o Bontypridd, sydd yn byw gyda'r cyflwr bipolar, sydd yn pryderu bod ei chyflwr wedi dirywio yn ystod y cyfnod oherwydd bod y lefel cymorth gan y gwasanaeth iechyd wedi gostwng yn sylweddol

Yn hwyrach ymlaen yr un noson, am 9.30, bydd y rhaglen Ken Hughes: Yn Cadw Ni Fynd yn dilyn profiadau'r cyn prif athro wrth iddo hunan ynysu adref ar ben ei hun.

Bydd Ken yn galw ar ffrindiau a theulu agos i'w helpu dros y we wrth iddo gadw'n positif, codi hwyl, a dysgu ambell i sgil newydd.

Drwy gydol yr wythnos bydd Hansh yn ymdrin ag amryw o bynciau yn ymwneud ac iechyd meddwl, gan gynnwys gor bryder, meddwlgarwch, bod yn sobor, cynnwys ar nwyoleuo, neu 'gaslighting', a sut mae'r bilsen atal-genhedlu yn gallu effeithio ar iechyd meddwl.

Yn ogystal â hynny, bydd Elen Gwen Williams yn sôn am Iechyd Meddwl i ffermwyr yn y fideo #MeddwlMercher ac mi fydd podlediad yn cael ei gyhoeddi sy'n trafod galar.

Yn ystod yr wythnos ar Stwnsh, bydd Mali Hughes yn annog plant i drio symudiad ioga a rhannu eu fideos drwy dudalen Fideo Fi ar wefan Stwnsh, www.s4c.cymru/cy/stwnsh/fideo-fi/.

Ac ar Cyw, Can Teimladau fydd Cân yr Wythnos, ac mi fydd y Shwshaswyn, cyfres meddwlgarwch sy'n annog plant i gymryd amser i ymdawelu, yn cael ei ddangos ar fore Mercher a Gwener.

Bydd detholiad eang o gynnwys, gan gynnig gwybodaeth, straeon cyfoes a lleisiau'r gwylwyr yn ystod y cyfnod COVID-19 hefyd ar gael ar y sianel Yma i Chi, ar S4C Clic.

Yn ogystal â'r rhaglenni newyddion a materion cyfoes diweddaraf, mae'r sianel yn gartref i rai o glasuron o'r archif a detholiad o ffilmiau byrion sy'n cynnig cymorth a chyngor yn ystod y pandemig.

Dywedodd Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Fel sianel genedlaethol, mae'n bwysig iawn fod S4C yn codi ymwybyddiaeth am iechyd meddwl a rhannu profiadau unigolion ar sut maen nhw wedi byw ac ymdopi gyda'u phroblemau.

"Wrth i ni fyw o ddydd i ddydd mewn amgylchiadau anarferol, mae pawb dan fwy o straen nag arfer ac mae mwy o bwyslais nag erioed ar fod yn garedig ac edrych ar ôl ein gilydd.

"Rwy'n gobeithio fod y rhaglenni ry'n ni'n dangos yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn cynnig cymorth, cysur a chefnogaeth i'n gwylwyr."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?