S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi’r lleoliadau gwaith a hyfforddiant cyntaf ar gyfer rhaglen ddatblygu Cynllun Carlam Ffeithiol a ariennir gan Channel Four, BBC Cymru Wales ac S4C

19 Mai 2020

● Chwe chynhyrchydd wedi'u dewis ar gyfer Cynllun Carlam Ffeithiol Cymru, ar ôl ymgyrch recriwtio hynod gystadleuol

● Bydd y Cynllun Carlam Ffeithiol yn parhau, wrth i'r diwydiant addasu i ffyrdd newydd o weithio

● Lleoliad gwaith cyntaf y Cynllun Carlam Ffeithiol ar y gweill gyda gweithredwr datblygu yn dechrau yn Cardiff Productions.

●Mae'r cynllun hyfforddi allweddol yn gynllun ar-lein erbyn hyn, ac ar gael i bob ymgeisydd a oedd ar y rhestr fer

Ar ôl proses recriwtio hynod gystadleuol, mae chwech o gynhyrchwyr mwyaf dawnus Cymru wedi cael eu dewis i fod yn rhan o'r rhaglen ddatblygu uchelgeisiol ac arloesol yma.Mae pecyn y Cynllun Carlam yn cynnwys lleoliadau gwaith darlledu a chynhyrchu gyda thâl, hyfforddiant pwrpasol, a mentora gan gomisiynwyr a chydweithwyr. Mae'r rhaglen yn ymateb i angen a nodwyd gan gwmnïau annibynnol a darlledwyr i fuddsoddi er mwyn datblygu'r genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol ffeithiol yng Nghymru. Er mwyn helpu i ddatblygu gweithlu dwyieithog, mae dau o'r chwe lle wedi'u neilltuo ar gyfer siaradwyr Cymraeg.

Er gwaethaf effaith Covid-19 ar waith cynhyrchu, mae cyllidwyr a phwyllgor llywio'r Cynllun Carlam wedi ymrwymo i gefnogi'r rhaglen ddatblygu, ac i wneud popeth posib i ddod o hyd i leoliadau gwaith addas ar gyfer y cynhyrchwyr llwyddiannus.Bydd y pecyn hyfforddi ar gael ar-lein, gan ddechrau mis yma gyda chyrsiau ar adrodd stori, rheoli ac arwain y gwaith o ysgrifennu sylwebaeth, datblygu a chynnig syniadau, negodi a dylanwadu, a mynd i'r afael â bwlio ac aflonyddu.

Dyma ymgeiswyr llwyddiannus y Cynllun Carlam: Gwenllian Hughes, Laura Martin Robinson, Carrie Smith, Eve White, Tammy Kennedy a Luke Pavey.

Roedd y panel dethol yn cynnwys comisiynwyr o bob darlledwr sy'n ariannu'r cynllun (BBC Wales Cymru, Channel Four ac S4C), a chafodd 22 o gynhyrchwyr eu gwahodd am gyfweliad.Cafodd y broses recriwtio ei chwblhau dair wythnos cyn dechrau'r cyfnod o gyfyngiadau symud, gyda sgyrsiau cynnar am leoliadau gwaith cynhyrchu yn cael eu cynnal wythnos cyn i'r canllawiau ar ymbellau cymdeithasol gael eu cyflwyno.

Dywed Hannah Corneck, Cyfarwyddwr Rhaglen y Cynllun Carlam Ffeithiol: Yn y cyfnod anodd yma, mae hi'n bwysicach nag erioed ein bod ni'n cefnogi ein gweithwyr llawrydd. Mae Covid-19 wedi cael effaith enfawr ar y maes cynhyrchu teledu ar draws y DU, ac mae'n hanfodol ein bod yn helpu cynhyrchwyr i ymdopi ag ansefydlogrwydd fel gweithwyr llawrydd, mewn cyfnod o ansicrwydd nad ydym wedi gweld ei debyg o'r blaen.

I sicrhau bod y Cynllun Carlam Ffeithiol yn cael cymaint o effaith â phosib, mae darpariaeth hyfforddiant y rhaglen ddatblygu wedi cael ei hehangu i bob ymgeisydd a oedd ar y rhestr fer i gael cyfweliad.Nid yw'r penderfyniad hwn yn arwain at gostau ychwanegol, ac mae'n ehangu ffiniau'r rhaglen i gynnig budd i 16 o gynhyrchwyr llawrydd ychwanegol yng Nghymru.

Wrth sicrhau lleoliadau gwaith y Cynllun Carlam yn yr hinsawdd bresennol, mae gofyn cael cydbwysedd rhwng y gofynion i ymbellhau cymdeithasol yn gyfrifol, ac anghenion busnes a'r diwydiant.Mae Cardiff Productions yn gwmni newydd yng Nghaerdydd sydd yn cynhyrchu rhaglenni ffeithiol a digidol dan arweinyddiaeth Narinder Minhas a Pat Younge oedd gynt yn Sugar Films. Mae'r cwmniwedi recriwtio Tammy Kennedy o'r Cynllun Carlam fel eu gweithredwr datblygu.

Dywed Pat Younge, Rheolwr Gyfarwyddwr Cardiff Productions: Mae'r Cynllun Carlam Ffeithiol yn ffordd wych o helpu i ddatblygu gyrfa y genhedlaeth nesaf o arweinwyr creadigol yng Nghymru. Mae'n wych cael rhywun mor brofiadol â Tammy yn ymuno â ni fel gweithredwr datblygu, a'n bod ni'n gallu ei helpu hi i ddatblygu, yn ogystal â dysgu ganddi hi ar yr un pryd.

Tammy Kennedy, gweithredwr datblygu a oedd yn rhan o'r Cynllun Carlam: Bydd cael arweiniad gan fentoriaid y'n arbenigwyr yn y maes, yn enwedig yn ystod y cyfnod cythryblus yma, yn amhrisiadwy wrth fy helpu i symud ymlaen yn fy ngyrfa ym myd datblygu. Yn sgil fy lleoliad gwaith rwy'n cael cyfle i gwrdd â chomisiynwyr rhwydweithiau – yr oeddwn i'n arfer meddwl a oedd y tu hwnt i'm cyrraedd – ac i drafod fy syniadau â nhw. Rwyf hefyd yn cael cefnogaeth ar gyfer fy syniadau, ac yn cael help i'w siapio'n becynnau sy'n fwy parod i gael eu comisiynu. Mae'n teimlo fel cynllun cyffrous iawn i fod yn rhan ohono. Mae wedi cael ei gynllunio'n dda, ac mae'n rhoi llawer o foddhad. Mae'n gwbl benodol i fy anghenion a, hyd yma, yn rhagori ar fy nisgwyliadau.

Mae gan Gymru enw rhagorol yn barod am gynhyrchu cynnwys ffeithiol – gan gynnwys rhaglenni fel Sun, Sea and Brides to Be, Bargain Hunt, The Ganges with Sue Perkins, The 1900 Island, The One Show, Cynefin a Drych. Mae darlledwyr yn awyddus i gyflymu twf y sector, ac i sicrhau bod gan Gymru y doniau i fodloni'r galw cynyddol am sgiliau o'r radd flaenaf, ac i weithio gyda'r ddwy iaith genedlaethol.

Ymgeiswyr llwyddianus Cynllun Carlam Ffeithiol

Tammy Kennedy: Cynhyrchydd Datblygu

Mae Tammy yn gynhyrchydd datblygu sy'n denu busnes, ac mae ganddi brofiad sylweddol fel Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr sy'n gwneud ei gwaith ffilmio ei hun.Mae hi'n rhedeg ei chwmni cynhyrchu ei hun, Little Bird Films, a chomisiwn mwyaf llwyddiannus y cwmni yw brand Hayley Goes. Gan fanteisio ar boblogrwydd Hayley fel cymeriad ar The Call Centre (BBC Three), cynigiodd Little Bird syniad am gyfres lle mae Hayley yn rhoi ar brawf y dewisiadau y mae ei chenhedlaeth hi yn eu hwynebu o ran ffordd o fyw.Mae cyfres tri ar fin cael ei darlledu ar BBC Three a BBC Wales.Roedd Little Bird hefyd wedi llunio a chynhyrchu'r rhaglen fwyd adloniadol Bwyd Bach Shumana a Catrin ar gyfer S4C.

Mae Tammy wedi bod yn gyfrifol am gynhyrchu a datblygu adloniant ffeithiol, rhaglenni dogfen a chynnwys ffeithiol arbenigol ar gyfer BBC One, BBC Two, Discovery ac S4C.Yn y BBC y mireiniodd ei chrefft fel datblygwr cynnwys, lle'r oedd yn rhan allweddol o'r gwaith o sicrhau a chynhyrchu rhaglenni uchel eu proffil, fel The Museum of Life, Top Dogs: Adventures in War, Sea and Ice , a Horse People gan Alexandra Tolstoy (i gyd ar BBC Two), Egypt: What Lies Beneath, Rome's Lost Cities (BBC One) a Weatherman Walking (BBC Wales).Mae Tammy yn olygyddol hyderus, ac yn fedrus iawn wrth wneud ei gwaith ffilmio ei hun. Mae hi'n parhau i ddatblygu a chyflwyno syniadau ar gyfer Little Bird Films, ac yn hogi ei sgiliau fel Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr drwy gynhyrchu cynnwys ffeithiol poblogaidd a llwyddiannus.

Laura Martin Robinson: Cynhyrchydd Cyfres

Mae Laura yn gyfarwyddwr rhaglenni dogfen sydd wedi ennill gwobrau.Llwyddodd ei ffilm Richard and Jaco: A Life with Autism (BBC Wales) i ennill dwy wobr BAFTA Cymru am y Rhaglen Ddogfen Orau a'r Cyfarwyddwr Gorau. Cafodd y ffilm ei gwylio 20 miliwn o weithiau ar BBC Stories.

Cafodd cyfres ddiweddarafLaura, Warriors: Our Homeless World Cup am dîm pêl-droed menywod digartref Cymru (BBC Wales) ganmoliaeth frwd yn y wasg genedlaethol, ac felly hefyd Giving Up My Baby (BBC3) a gyflwynwyd gan Stacey Dooley.Dysgodd Laura ei chrefft o greu rhaglenni dogfen ar raglenni Behind Bars ac A Place for Paedophiles gan Louis Theroux. Cafodd ei ffilm annibynnol gyntaf, The Dead Letter Detectives, ei chynnwys ar y rhestr fer ar gyfer Channel 4 Talent Awards, a'i dewis ar gyfer gwyliau Britdoc a Birdseyeview.

Llwyddodd Laura i sicrhau cyllid gan Women in Film & TV yn ddiweddar, ac mae wrthi ar hyn o bryd yn datblygu ffilm am Gomin Greenham, ac yn cwblhau rhaglen ddogfen am ddyn trawsryweddol sy'n seren YouTube ac sydd wedi caniatáu mynediad y tu ôl i'r llenni iddi – na welwyd ei debyg o'r blaen – ar gyfer ei holl lawdriniaethau.

Luke Pavey: Cynhyrchydd Gweithredol

Mae Luke yn creu ffilmiau dogfen, ac mae wedi ennill gwobr BAFTA Cymru. Cafodd ei raglen ddogfen ddiweddaraf, Critical: Inside Intensive Care ar gyfer BBC Wales Cymru, ei ffilmio gan y timau meddygol yn ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd, wrth iddyn nhw ofalu am gleifion â Covid 19. Fel cyfarwyddwr a chynhyrchydd cyfresi, mae Luke yn gweithio ar gynyrchiadau fel Cornwall: This Fishing Life (BBC Two) a Critical: Inside Intensive Care (BBC Wales) – o'r cam datblygu, i'w cwblhau'n derfynol. Mae Luke yn un o aelodau craidd Frank Films, cwmni annibynnol sydd newydd gael ei ffurfio yng Nghaerdydd, lle mae'n gweithio ochr yn ochr â'r cyfarwyddwyr creadigol Steve Robinson a Jamie Balment.

Cyn hynny roedd Luke yn gweithio yn Folk Films ac Indus Films, lle bu'n cynhyrchu amryw o gyfresi, gan gynnwys The River Taff with Will Millard (BBC Wales a BBC Four) ac The Family Farm (BBC Wales a BBC Two). Mae hefyd wedi gweithio ar amrywiaeth o'u rhaglenni ffeithiol, gyda rôl ar The Ganges with Sue Perkins (BBC One), Wild Shepherdess with Kate Humble (BBC Two) ac The Fishermen's Apprentice with Monty Halls (BBC Two).

Mae Luke hefyd wedi gweithio gyda thimau mewnol y BBC ar gynyrchiadau amser brig, fel Coast (BBC Two), yn ogystal â gwneud y ffilmiau dogfen Locked in My Body a Bad Boy Boxer (BBC Three).

Eve White: Cynhyrchydd Cyfres

Mae Eve yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr hynod brofiadol sy'n gweithio ar raglenni ffeithiol arbenigol poblogaidd.Mae hi wedi bod yn gysylltiedig ag amrywiaeth eang o sianeli, cynulleidfaoedd a genres. Fel cynhyrchydd, cyfarwyddwr a chynhyrchydd golygu, mae hi wedi bod yn rhan o'r gwaith o gynhyrchu prosiectau hynod lwyddiannus ar gyfer y rhwydwaith a'r gwledydd, gan gynnwys sawl cyfres o Back in Time (BBC Two) sy'n sôn am hanes byw, Timeshift (BBC4), Countryfile a Flog It! (BBC One) ac The Massacre that Shook the Empire (Channel Four).

Cafodd Eve ei dewis ar gyfer cynllun hyfforddi 'rhai i'w gwylio' Gŵyl Deledu Ryngwladol nodedig Caeredin yn 2018. Mae hi newydd orffen cynhyrchu a chyfarwyddo ail gyfres Hayley Goes (BBC Three/BBC One Wales) yn ddiweddar, ac mae hi ar fin ymgymryd â rôl cynhyrchydd cyfres am y tro cyntaf ar fformat amser brig newydd sbon, ar gyfer BBC Cymru Wales.

Mae gan Eve brofiad sylweddol o gynhyrchu a chyfarwyddo ar gyfer cwmnïau annibynnol yng Nghaerdydd a Bryste, gan gynnwys Wall to Wall West, Sugar Films, Wildflame Productions a Little Bird Films.Mae hi wedi arwain y gwaith o gastio ensemble cymhleth ar gyfer hanes byw, wedi cyflwyno syniad llwyddiannus ar gyfer ei rhaglen ddogfen ei hun ym myd y celfyddydau ac wedi siapio'r rhaglen honno, ac wedi bod yn rhan o'r holl broses o ddatblygu'r cynnwys mae hi wedi'i gyfarwyddo – o'r cam cysyniad i gynhyrchu'r gwaith, a'i olygu.

Carrie Smith: Cynhyrchydd Cyfres

Mae Carrie Smith yn wneuthwrffilmiau sydd wedi ennill gwobrau.Mae hi'n gyfarwyddwr, yn gynhyrchydd ac yn gynhyrchydd golygu, sydd â phrofiad ar draws amrywiaeth eang o gynnwys ffeithiol poblogaidd, gan gynnwys rhaglenni dogfen arsylwadol, a chynnwys digidol a ffeithiol poblogaidd ar gyfer dramâu mwyaf y DU.

Roedd Carrie wedi ffilmio, cynhyrchu a chyfarwyddo The Greatest Gift – cyfres yn cofnodi'r newid yn y gyfraith ar gyfer rhoi organau – a enillodd y wobr am y Gyfres Ffeithiol Orau yng ngwobrau BAFTA (Cymru). Mae hi'n arbenigwraig ar drefnu a sicrhau mynediad, ac wedi llwyddo i gael mynediad at amryw o heddluoedd ar draws y DU, yn ogystal â llawer o fusnesau preifat fel gwestai a milfeddygfeydd.

Roedd Carrie yn uwch gynhyrchydd ar raglen The Wanted (BBC One), cyfres 15 pennod yr oedd wedi helpu i'w siapio wrth i'r gyfres gael ei golygu a'i chyflwyno ar hyd a lled y byd. Mae hi hefyd wedi ffilmio a chynhyrchu cynnwys adloniant ffeithiol ar gyfer The One Show, ac wedi cynhyrchu'r gyfres Weatherman Walking (BBC One Wales).

Yn fwy diweddar, mae Carrie wedi bod yn cynhyrchu cynnwys y tu ôl i'r llenni, ac yn creu cynnwys digidol poblogaidd ar gyfer cyfresi drama sy'n gyd-gynyrchiadau).Mae hi wedi bod yn ffilmio yn Tokyo a De Affrica gyda wynebau cyfarwydd a rheolwyr rhaglenni ar gyfer Gentleman Jack (BBC a HBO), GIRI/HAJI (BBC / Netflix) a Peaky Blinders.

Gwenllian Hughes: Cynhyrchydd Cyfres

Mae Gwenllian Hughes yn gynhyrchydd/cyfarwyddwr hynod brofiadol sydd wedi ennill gwobrau, ac mae hi'n arbenigo mewn rhaglenni dogfen o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar y cymeriadau.Mae hi wedi bod yn gysylltiedig gyda The Incurable Optimist (BBC One Wales) a enillodd Wobr BAFTA Cymru yn 2019, ar ôl cael dau enwebiad BAFTA Cymru am raglen Rhod Gilbert: Stand up to Shyness (BBC One Wales) y flwyddyn flaenorol, a Jack to a King, rhaglen nodwedd ddogfennol am glwb pêl-droed Dinas Abertawe a gafodd ei rhyddhau mewn theatrau yn 2015.

Mae gan Gwen brofiad helaeth o bob agwedd ar y broses gynhyrchu, ac mae wedi gweithio fel Pennaeth Cynhyrchu yn Indus Films lle bu'n goruchwylio holl arlwy'r cwmni, gan gynnwys amryw o raglenni dogfen ar gyfer rhwydwaith y BBC fel Amazon with Bruce Parry, sydd wedi ennill gwobr BAFTA, Inside London's Markets ac Eiger: Wall of Death. Gwenllian yw Sylfaenydd a Rheolwr Gyfarwyddwr Kailash Films, cwmni cynhyrchu annibynnol addawol, ac mae hi wrthi'n meithrin ac yn datblygu'r cwmni ar hyn o bryd.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?