S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Eisiau creu ffilm? Cyfle i ennill £1,000 yng nghystadleuaeth Her Ffilm Fer Hansh

3 Mehefin 2020

Ydych chi'n hoffi creu ffilmiau? Beth bynnag eich lefel profiad, mae Hansh yn annog pobl sydd yn angerddol am ffilm i gymryd rhan mewn Her Ffilm Fer fis yma.

O nos Wener 19 Mehefin i nos Sul 21 Mehefin, bydd gan gystadleuwyr gyfnod o 48 awr i greu ffilm fer wreiddiol, o dan un genre penodol fydd yn cael ei ddatgelu cyn dechrau'r her.

Bydd rhai o gynhyrchwyr drama mwyaf blaenllaw Cymru yn beirniadu'r gystadleuaeth ac yn dewis enillydd, fydd yn hawlio gwobr o £1,000. Bydd y ffilmiau hefyd yn cael eu dangos ar blatfform Youtube Hansh yn dilyn y gystadleuaeth. Y pum beirniad yw:

  • Hannah Thomas - Cynhyrchydd Craith, Under Milk Wood, Becoming Human
  • Euros Lyn - Cyfarwyddwr Dr Who, Torchwood, Y Llyfrgell
  • Ed Thomas - cynhyrchydd Y Gwyll, Gwaith Cartref, Pen Talar
  • Gwenllian Gravelle - Comisiynydd Drama S4C, cyn-gynhyrchydd Un Bore Mercher
  • Rhodri ap Dyfrig - Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C a Hansh

Yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at yr her, bydd sesiynau masterclass yn cael ei cynnal gan sawl cynhyrchydd adnabyddus, gan gynnwys Euros Lyn, i ddangos technegau ffilmio ac i helpu cystadleuwyr i wneud y mwyaf o'u hadnoddau.

Bydd yr actor Annes Elwy, seren Craith a Little Women, yn cyflwyno'r gystadleuaeth ar Hansh yn ystod yr wythnosau sy'n arwain at y penwythnos mawr.

Dywedodd Annes Elwy: "Er bod y misoedd diwethaf wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, mae cael y llonydd a'r gormodedd o amser yma wedi galluogi i bobl ail gysylltu, neu ddarganfod am y tro cyntaf hyd yn oed, eu hochr creadigol, ac mi fydd o'n gyffrous i weld hynny yn amlygu ei hun yn ffilmiau'r gystadleuaeth hon.

"Mae o'n gyfle gwych i unigolion wrth gwrs, ond hefyd yn gyfle i dirlun ffilm a theledu yng Nghymru ddatblygu a chroesawu cyfranwyr talentog, sydd tan hyn efallai ddim wedi gwybod lle i ddechrau efo cael eu gwaith nhw o flaen y bobl iawn."

Dywedodd Hannah Thomas: "Dw i'n rili edrych ymlaen at weld beth ddaw allan o'r her yma. Dyma gyfle i wneuthurwyr ffilm adael i'r dychymyg rhedeg yn rhydd ac i greu ffilmiau byr anarferol a heriol. Pob lwc i bawb sydd yn cymryd rhan!"

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C: "Mae Hansh yn blatfform sydd wedi ysgogi creadigrwydd ers y cychwyn cyntaf, a beth bynnag eich lefel o brofiad neu'r dechnoleg sydd o fewn eich cyrraedd, rydym yn annog cynhyrchwyr ffilmiau Cymru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth hon.

"Er gwaethaf cyfyngiadau'r cyfnod clo, rydym yn edrych ymlaen i weld sut all yr amgylchiadau unigryw yma sbarduno dychymyg a syniadau cyffrous ymysg ein cynhyrchwyr ffilmiau."

I gofrestru i gymryd rhan yn y gystadleuaeth, ewch i www.herffilmfer.cymru. Dilynwch gyfrifon Hansh ar Instagram, Facebook a Twitter am ragor o fanylion am y gystadleuaeth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?