S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bwyd Brên - Eisteddfod AmGen yn cyhoeddi cyfres newydd Hansh S4C

2 Gorffennaf 2020

Mae gwasanaeth ar lein S4C Hansh a'r Eisteddfod Genedlaethol wedi dod at ei gilydd i gyhoeddi cyfres newydd o'r enw Bwyd Brên fel rhan o AmGen, prosiect aml-blatfform yr Eisteddfod, sy'n gymysgedd eclectig o weithgareddau digidol i roi blas o'r ŵyl i wylwyr.

Mae Bwyd Brên yn gyfres o gyflwyniadau wrth ein cenhedlaeth nesaf o feddylwyr, gweithredwyr a chyflawnwyr, y rhai sy'n arwain y ffordd yn eu meysydd priodol.

Wrth i ni oroesi cyfnod anhygoel fyd-eang, cyfnod lle fyddwn yn gweld y byd yn newid yn feddygol, yn economaidd, yn gymdeithasol ac yn amgylcheddol, does dim amser gwell i ni glywed wrth y Cymry ifanc sy'n mynd i arwain y ffordd yn y dyfodol.

Mae'n gyfres sy'n gwneud i ni feddwl - am iaith, yr amgylchfyd, meddyginiaeth a phob math o bethau eraill.

Bydd y ffilm gyntaf yn cael ei ddarlledu ddydd Gwener am 12:30 fel rhan o slot y Pentref Gwyddoniaeth a Thechnoleg #GwenerGwyddonol AmGen a bydd modd gwylio ar dudalen Facebook yr Eisteddfod ac ar Hansh.

Bedwyr ab Ion sy'n serennu yn y ffilm gyntaf sy'n dilyn cwrs PhD gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym Mhrifysgol Caerdydd yn adran y Gwyddorau Biolegol.

Mae'n arbenigo mewn datblygu triniaethau a meddyginiaethau newydd gan gyfuno dulliau cemeg cyfrifiadurol, profion biocemegol, a phrofion biolegol er mwyn darganfod cyffuriau addas i glefydau.

Yn ei gyflwyniad Bwyd Brên mae Bedwyr yma i egluro'r da a'r drwg am gyffuriau a'r ymdrech i ddarganfod meddyginiaethau newydd - ac yn ystyried a fyddwn ni byth yn darganfod cyffur i wella pob un firws a salwch?

Bydd yr ail ffilm i'w gweld ar y 5ed o Orffennaf ac yn edrych yn benodol ar bŵer iaith.

Ieithyddiaeth yw arbenigedd Seán Roberts, darlithydd yn Ysgol Saesneg, Cyfathrebu ac Athroniaeth, Prifysgol Caerdydd.

Mae'n defnyddio ystod o ddulliau mesurol i ddeall sut wnaeth ieithoedd ymddangos a'r modd maen nhw'n newid, yn enwedig gan ystyried gwybyddiaeth unigolyn ac hefyd rhyngweithiad gyda'r ecoleg ehangach.

Bydd y drydedd ffilm i'w gweld ar y 10fed o Orffennaf gyda Nia Jones sy'n astudio PhD yn Ysgol Gwyddorau Eigion, Prifysgol Bangor ac yn gwneud ymchwil i'r pwnc llosg meicroblastig, gan edrych yn benodol ar y broblem ar arfordir Gogledd Cymru.

"Sbarduno trafodaeth gyda rhai o'r pynciau mwyaf pwysig ac amserol" yw'r bwriad gyda'r gyfres hon meddai Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Arlein S4C.

"Mae'n bwysig i ni gynnig amrywiaeth o gynnwys ar Hansh ac mae'r gyfres hon yn rhoi llwyfan i gyfathrebwyr ifanc gorau Cymru i drafod eu syniadau a rhannu eu persbectif ar bynciau o bwys.

"Mae'r Coleg Cymraeg wedi bod yn allweddol wrth gynllunio'r siaradwyr a'r pynciau ac ry'n ni'n falch iawn o gydweithio gyda'r Eisteddfod Genedlaethol i ddarlledu'r ffilmiau yma fel rhan o raglen AmGen."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?