S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn chwilio am Aelodau Bwrdd newydd

5 Hydref 2020

Mae S4C yn chwilio am Aelodau Anweithredol newydd i Fwrdd Unedol y gwasanaeth.

Mae'r broses recriwtio sy'n cael ei harwain gan Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon gyda hysbyseb am Aelodau Anweithredol newydd i ymuno gyda Bwrdd Unedol S4C.

Mae Bwrdd S4C yn cynnwys y Cadeirydd a hyd at wyth aelod arall, bob un ohonynt wedi'u penodi gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Daw aelodau â sgiliau a phrofiad amrywiol i'r Bwrdd, er bod disgwyl i bob un ohonynt sicrhau bod S4C yn cyflawni ei gorchwyl o ran gwasanaeth cyhoeddus a bod arian cyhoeddus ac arian o ffi'r drwydded a ddyrennir i S4C yn cael eu defnyddio'n briodol.

Yn rhan o'i ymrwymiad diweddar i gynyddu amrywiaeth o flaen a thu ôl i'r sgrin, mae S4C yn croesawu ceisiadau gan bobl o gefndiroedd BAME a phobl ag anableddau.

Mae'n hanfodol fod y Bwrdd yn cynrychioli ac yn adlewyrchu'r amrywiaeth cynulleidfaol yng Nghymru ac ar draws y DU, ac felly gobaith S4C yw denu grŵp o ymgeiswyr cryf ac amrywiol o ystod o gefndiroedd.

Maent hefyd yn chwilio yn benodol am bobl a phrofiad o ddarlledu, cyfryngau digidol a'r diwydiannau creadigol ehangach; neu brofiad o reoli ariannol a dealltwriaeth dda o archwilio, llywodraethu, a rheoli risg.

Byddai hefyd profiad o gyfathrebu a marchnata a dealltwriaeth o ymgysylltu â chwsmeriaid a rhanddeiliaid yn cael ei groesawu yn fawr.

"Yn sicr mae'r blynyddoedd nesaf yn mynd i fod yn garreg filltir yn hanes S4C" meddai Owen Evans, Prif Weithredwr y sianel.

"Byddwn yn dathlu pen-blwydd S4C yn 40 oed yn 2022, ac wrth i ni lunio strategaeth i ail ddiffinio pwrpas S4C am y ddegawd nesaf mae'n gwbl allweddol fod gennym gynrychiolaeth o bob cefndir yng Nghymru i'n harwain i gyflawni ein gweledigaeth i'r dyfodol.

"Dyma eich cyfle i ymuno â ni ar ein taith"

Mae'r dyddiad cau ar gyfer ymgeisio ar 23 Hydref 2020. Mwy o wybodaeth yma:

https://publicappointments.cabinetoffice.gov.uk/appointment/3-x-board-members-s4c-3-x-aelodau-anweithredol-s4c-sianel-pedwar-cymru/

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?