S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Cytundeb arloesol yn golygu y bydd rhaglenni S4C ar gael am 150 diwrnod ac yn fyd-eang

12 Hydref 2020

Mae S4C a TAC (Teledwyr Annibynnol Cymru) wedi bod yn cydweithio ar delerau masnach newydd bydd yn galluogi gwylwyr led led y byd i fwynhau rhaglenni newydd y sianel yn ogystal â rhaglenni archif ar alw drwy S4C Clic.

Bydd holl rhaglenni newydd S4C, ynghyd â chynnwys o'r archif lle mae hawliau'n caniatáu, ar gael am gyfnod safonol o 150 diwrnod ar S4C Clic yn hytrach na'r 35 diwrnod presennol.

Mae hyn yn cynnwys 'bocs sets', sydd wedi profi'n hynod o boblogaidd.

Mae'r Telerau Masnach hefyd yn golygu bydd modd ffrydio digwyddiadau yn fyw yn fyd-eang gan gynnwys sioeau, gigs, a gwyliau.

Meddai Owen Evans, Prif Weithredwr S4C: "Hoffwn ddiolch yn fawr i TAC am ei gwaith yn cydlynu'r Telerau Masnach newydd fydd yn sicrhau gwasanaeth gwell i'n gwylwyr ac yn golygu y gall ein rhaglenni gyrraedd bob rhan o'r byd.

"Mae ein gwasanaeth ar alw, S4C Clic, wedi datblygu'n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf gyda dros 100,000 wedi cofrestru erbyn hyn, ac mae'n allweddol bod ein cynnwys ar gael i'n cynulleidfaoedd eu mwynhau unrhyw bryd.

"Mae'r cytundeb hwn yn sicr yn gam mawr ymlaen i ni gyflawni ein strategaeth ddigidol i'r dyfodol."

Dywedodd Gareth Williams, Cadeirydd TAC:

"Rwy'n falch eithriadol fod TAC ac S4C wedi cytuno ar Drydydd Argraffiad y Telerau Masnach.

"Rwy'n ffyddiog y bydd y Telerau Masnach hyn yn fuddiol i'r sector cynhyrchu, ac yn hwyluso'r berthynas ag S4C o ran gweithredu effeithlon y broses gomisiynu yn y dyfodol.

"Hoffwn ddiolch i Gyngor ac Is-bwyllgor Hawliau TAC ac i S4C am eu gwaith manwl a gofalus yn ystod y trafodaethau."

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?