S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

S4C yn nodi penwythnos Marathon Eryri gyda rhaglen arbennig

23 Hydref 2020

Er i strydoedd Llanberis fod ychydig yn fwy tawel ddydd Sadwrn yma nag yn ystod penwythnos Marathon Eryri arferol, fe fydd S4C yn nodi'r digwyddiad drwy herio rhai o redwyr llwyddiannus i rasio yn erbyn ei gilydd ar hyd y cwrs eiconig.

Yn gynharach eleni, fe gyhoeddwyd fod y 38fed marathon wedi ei ohirio o ganlyniad i'r pandemig Covid-19.

Ond fel rhan o raglen deledu arbennig, fe fydd detholiad o redwyr amlycaf gogledd Cymru, gan gynnwys ambell gyn enillydd y ras, yn ffurfio dau dîm cyfnewid wrth i'r cwrs gael ei rannu yn bedwar cymal heriol.

Fe fydd y ddau dîm cymysg yn cynnwys: Russell Bentley, Gemma Moore, Rob Samuel, Andrea Rowlands, Tom Roberts, Elliw Haf, Alun Vaughan a Nia Albiston, gyda dau redwr yn rhedeg pob cymal unigol.

Bydd y rhaglen Marathon Eryri 2020: Ras y Cewri, sy'n cael ei gynhyrchu gan Cwmni Da, yn cael ei ddangos am 9.00 ar nos Sul 25 Hydref.

Bydd y rhedwr marathon wltra, Huw Jack Brassington, sydd hefyd wedi cynrychioli Prydain yn y maes treiathlon, yn cyflwyno'r rhaglen, gyda Nic Parry a Sian Williams yn sylwebu ar y cyfan.

Meddai Huw: "Does dim llawer o rasus, yn enwedig yn Eryri, lle mae cymaint o bobol yn dod allan i wylio.

"Mae'r dorf yn wych ac yn rhoi'r ras uwchlaw unrhyw marathon arall yng Nghymru, fyswn i'n ddweud, o safbwynt yr awyrgylch.

"Ella fydd na ddim o'r bwrlwm na sŵn y dorf yn Llanberis eleni, ond be sy'n bwysig ydi bod ni'n cario ymlaen.

"Mae o'n fformat hynod o ddiddorol bod yr holl bencampwyr yma'n dod at ei gilydd mewn ras gyfnewid.

"Yn sicr, mae'r ffaith eu bod yn rhedeg gyda'i gilydd mewn tîm yn ychwanegu fwy o danwydd i'r tân. Mae'n nhw i gyd yn redwyr elît ac mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw wedi rhedeg dros Gymru ar y lon neu'r mynydd.

"Gallai ddim disgwyl i weld sut hwyl maen nhw'n gael arni."

Yn ogystal yn y rhaglen, byddwn yn cwrdd â rhai o'r 700 o redwyr sy'n cymryd rhan yn yr her Eryri Rhithiol, ble fydd rhaid i redwyr gwblhau pellter marathon o 26.2 milltir dros gyfnod o saith diwrnod; fformat sydd yn galluogi i redwyr na fyddai efallai yn cystadlu ynddi fel arfer, gymeryd rhan.

Cyflwynydd Marathon Eryri: Ras y Cewri, Huw Brassington, a'r rhedwyr.

Ychwanega Huw: "Dwi wedi bod yn cyfweld â rhai o'r bobol sydd yn rhedeg yn y ras rhithiol; nyrs sy'n gweithio yn Ysbyty Gwynedd a rhywun sydd wedi gorffen chemotherapi yn ddiweddar, a mae na 700 o bobl yn rhedeg y ras rithiol hefyd.

"Mae na fwlch enfawr wedi bod yn nghoffrau bob un elusen eleni; pan di'r rasus yma ddim yn digwydd, dydi pobl ddim yn hel pres.

"Felly mae'r ffaith bod y rasus yn cario ymlaen yn bwysig ar gyfer hynny, ac mae hyn am helpu lot o elusennau lleol.

"Dydi bywyd ddim yn sefyll yn llonydd a'r hyn sy'n bendant yw fod rhedwyr ddim yn dda am sefyll yn llonydd!

"Mae rhedeg wedi bod yn ffordd i lot o bobl ddianc yn ystod y cyfnod clo ac mae o wedi bod yn achubiaeth i lot o bobl.

"Mae nhw wedi bod yn ymarfer lot ar gyfer y ras rhithiol, felly mae wedi bod yn beth da iddyn nhw gael rhywbeth i anelu tuag ato."

Bydd Marathon Eryri 2020: Ras y Cewri yn cael ei ddangos am 9.00pm ar nos Sul 25 Hydref, ar S4C.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?