S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

A fyddech chi’n cael affêr gyda’ch gŵr eich hun? Drama newydd tanboeth S4C yn cychwyn ffilmio

3 Tachwedd 2020

Mae'r gwaith ffilmio wedi cychwyn ar Fflam - drama newydd sy'n addo dod ag ychydig o wres i dwymo oerfel mis Chwefror i wylwyr S4C.

Vox Pictures (Un Bore Mercher) sy'n cynhyrchu'r ddrama sy'n serennu Gwyneth Keyworth (Hidden/Craith, Black Mirror, The Crown) a Richard Harrington (Hinterland/Y Gwyll).

Mae Fflam wedi ei addasu o stori wreiddiol gan Gwenno Hughes sy'n rhan o dîm o awduron sydd wedi sgriptio'r ddrama - sy'n cynnwys Pip Broughton a Catrin Evans.

Mae bywyd yn llawn gobaith i Noni a Deniz (Memet Ali Alabora) sy'n atgyweirio eu fferm fechan ac yn edrych ymlaen at y dyfodol. Mae Malan (Mali Ann Rees), ffrind gorau Noni, ac Ekin (Pinar Ogun), chwaer Deniz, hefyd yn obeithiol wrth i'w cynlluniau i gael plentyn ddod yn bosib wrth i Deniz gytuno i fod yn rhoddwr er mwynl bod yn dad i'w plentyn.

Mae bywyd yn fêl i gyd nes bod Noni'n gweld ysbryd o'i gorffennol - Tim, ei gŵr a laddwyd mewn tân dychrynllyd yng Nghaeredin - neu ddyn sydd yn edrych yn debyg iawn iddo.

A fydd Noni yn gallu gwrthsefyll temtasiwn - neu yw hi'n achos o hawdd cynnau tân ar hen aelwyd...?

Bydd pob pennod o Fflam yn 30 munud o hyd yn wahanol i ran fwyaf o ddramâu S4C sy'n draddodiadol yn awr o hyd.

Meddai Gwenllïan Gravelle, Comisiynydd Drama S4C: "Oherwydd cyfyngiadau a heriau cyfnod Covid-19 mae hi wedi bod yn anodd i gwmnïau cynhyrchu greu dramâu yn yr un modd. Mae canllawiau gweithio'n ddiogel yn golygu bod pob cynhyrchiad yn gorfod gweithio gyda llai o bobl - tu ôl ac o flaen y camera."

"Roeddem ni eisiau arbrofi gyda fformat newydd. Llwyddodd Vox Pictures i greu'r gyfres ddrama Cyswllt i S4C ar ddechrau'r cyfnod clo - ac fe weithiodd hon yn dda iawn gyda phob pennod yn hanner awr.

"Mae Fflam yn gynhyrchiad cyffrous iawn gyda stori ddifyr, actorion arbennig a sgript gafaelgar - mae'n braf iawn gweld dramâu Cymraeg o safon uchel yn cael eu creu unwaith eto."

Meddai Adrian Bates o Vox Pictures: "Mae Vox Pictures yn falch iawn o fod yn gweithio gydag S4C eto ar y gyfres fawreddog hon a fydd heb os yn dilyn llwyddiant Un Bore Mercher a Cyswllt. Mae'r cynhyrchydd Llyr Morus a'r cyfarwyddwr Judith Dine wedi recriwtio cast a chriw anhygoel fydd yn cyflwyno'r stori angerddol hon mewn cyfnod heriol iawn."

Bydd Fflam yn cael ei ffilmio yn ardal Caerdydd a Bro Morgannwg yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr. Bydd y gyfres yn cychwyn ar S4C ym mis Chwefror.

Bydd Vox Pictures yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod i sicrhau fod y gwaith yn parhau mewn ffordd ddiogel.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?