S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Datblygu a denu talent newydd i’r maes Newyddiaduraeth

5 Tachwedd 2020

Gyda mwy o bwyslais nag erioed ar y newyddion a'r cyfryngau cymdeithasol, mae S4C ac ITV Cymru eto eleni yn cefnogi cynllun hyfforddi newyddiadurwyr i greu deunydd ar gyfer platfform digidol Hansh.

Mae'r cynllun hyfforddi arloesol, sy'n bartneriaeth rhwng S4C ac ITV, yn rhedeg am y trydydd tro ac yn rhan o ymrwymiad S4C i roi cyfle i bobl sy'n cael eu tangynrychioli yn y sector i weithio yn y maes.

Bydd y ddau newyddiadurwr dan hyfforddiant yn cael profiad o weithio ar y rhaglenni materion cyfoes mae ITV yn creu ar gyfer S4C, rhaglenni fel Y Byd ar Bedwar ac Y Byd yn ei Le. Byddant hefyd yn dysgu creu cynnwys materion cyfoes ffurf fer ar gyfer cynulleidfa Hansh Dim Sbin ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Lloyd Lewis a Maia Davies yw'r ddau sydd wedi ennill eu lle ar y cynllun hyfforddi eleni a hynny o dros 90 o ymgeiswyr. Bydd y ddau i'w gweld ar dudalennau Hansh, yn torri straeon newydd ac yn ceisio tanio sgwrs am bynciau llosg a materion gwleidyddol ymysg y gynulleidfa iau.

Mae Lloyd, sy'n 24 oed ac yn wreiddiol o Gwmbrân, yn edrych ymlaen at ddilyn ei uchelgais o ddatblygu gyrfa yn y maes ar ôl dilyn gradd mewn Llenyddiaeth Saesneg, Cyfryngau a Newyddiaduraeth:

"Mae'r cynllun yma yn gyfle anhygoel i gael syniad gwell o'r diwydiant a chael profiadau amhrisiadwy a fydd yn y pen draw yn galluogi i mi adeiladu gyrfa lwyddiannus."

Un o'r pethau sy'n bwysig i Lloyd yw sicrhau cynrychiolaeth deg o'r wlad fel y mae hi heddiw:

"Rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol i roi cynrychiolaeth o Gymru fodern a'i chyfoeth o ddiwylliannau, felly i mi, hoffwn weld cynrychiolaeth well o wahanol ethnigrwydd yn ein cynnwys cymdeithasol, a fydd yn ei dro yn cynyddu sylfaen ein cynulleidfa."

Fel cyn chwaraewr rygbi saith bob ochr i Gymru, sydd erbyn hyn yn chwarae i Glwb Rygbi Pont-y-pŵl, mae chwaraeon o ddiddordeb mawr iddo:

"Rwy'n credu bod cyfle enfawr i greu mwy o gynnwys sy'n gysylltiedig â chwaraeon ar lwyfannau fel Hansh a fydd yn ei dro yn cynyddu sylfaen ein cynulleidfaoedd ymhellach."

Bu Maia yn fyfyriwr ym Mhrifysgol Caergrawnt ac yn olygydd ar bapur newydd y myfyrwyr, Varsity. Mae hi'n edrych ymlaen at hyfforddi fel newyddiadurwr mewn cyfnod mor unigryw i newyddiaduraeth yng Nghymru.

Dywedodd Maia sy'n 21 oed ac yn wreiddiol o Gaerdydd:

"Mae eleni wedi bod yn agoriad llygaid i bwysigrwydd newyddiaduraeth wrth drio sicrhau fod Cymru yn ganolbwynt i'r straeon, ac nid yn ôl-nodyn.

"Wrth ddarllen am Covid-19, mae wedi bod gwir angen i feddwl yn feirniadol am ba mor berthnasol yw'r newyddion rydym ni'n ei ddarllen i Gymru - a hynny am y tro cyntaf i lawer, mae'n siŵr."

Yn ôl Maia, mae'r pwyslais cynyddol ar newyddion digidol yn holl bwysig i gyrraedd y gynulleidfa iau, ac mae hi'n canmol gwaith Hansh Dim Sbin am rannu gwybodaeth â'r gynulleidfa hynny mewn ffordd aeddfed ac unigryw gan ddeall y materion hynny sy'n bwysig iddynt:

"Does dim platfform newyddion arall yng Nghymru - yn Gymraeg neu'r Saesneg - yn gwneud hyn" meddai Maia, "a dwi'n edrych ymlaen at geisio sefydlu'r platfform ymhellach."

Bellach wedi'i lansio ers tair blynedd, mae Hansh yn blatfform digidol sy'n targedu'r gynulleidfa 16-34 oed. Gyda chynnwys gwreiddiol, yn aml yn llawn hiwmor a thynnu coes, i'w weld ar y platfform yn ddyddiol, bydd y cynllun hwn yn cynnig deunydd o fath gwahanol i'r gwylwyr.

Dywedodd Rhodri ap Dyfrig, Comisiynydd Cynnwys Arlein S4C:

"Rydyn ni'n falch iawn o allu ymestyn y cynllun hwn eto eleni ar ôl llwyddiant y blynyddoedd diwethaf.

"Mae'r pedwar unigolyn sydd wedi cymryd rhan yn y cynllun hyfforddi hyd yma wedi mynd ymlaen i weithio yn y maes newyddiaduraeth mewn swyddi llawn amser, sydd yn dangos ei werth i'r sector ac i'r unigolion.

"Mae rhoi llwyfan i newyddiaduraeth gyfoes a barn pobol ifanc am beth sy'n digwydd yn y byd o'u cwmpas yn ychwanegiad pwysig at Hansh, ac yn lle i ddatblygu technegau gwbl gyfoes o drafod materion Cymru a'r byd."

Dywedodd Phil Henfrey, Pennaeth Newyddion a Rhaglenni yn ITV Cymru:

"Mae ITV Cymru yn chwarae rhan elfennol wrth ddarparu newyddion a materion cyfoes Cymraeg dibynadwy i gynulleidfaoedd, ac mae'n gyffrous iawn cael gweithio gydag S4C unwaith eto ar y cynllun arloesol hwn i gyrraedd cynulleidfaoedd iau ar lwyfannau newydd trwy gyfrwng y Gymraeg.

"Bydd Lloyd a Maia yn gweithio ochr yn ochr â thîm materion cyfoes hynod o dalentog ac angerddol a byddant yn dod â phersbectif a llais newydd i helpu i ddenu cynulleidfaoedd newydd i'n sylw ni ar faterion Cymreig."

Bydd Maia a Lloyd yn dechrau ar eu gwaith ym mis Tachwedd 2020.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?