S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Estyn dwylo dros 35 mlynedd i roi egni newydd i hen gân

24 Tachwedd 2020

Mae dwylo wedi bod yn rhan o'n bywydau'n fwy nag erioed yn 2020 - wrth i ni eu golchi, eu glanhau, a chlapio i'n gweithwyr allweddol.

35 mlynedd yn ôl roedd dwylo yn nodwedd gref yn nhestun y record elusennol gyntaf yn y Gymraeg, sef Dwylo Dros y Môr.

Dyma sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i'r gantores Elin Fflur, gyda chymorth y cerddor Owain Gruffudd Roberts i dynnu dros 30 o artistiaid y sîn gerddoriaeth heddiw ynghyd (dan ganllawiau ymbellhau Llywodraeth Cymru) i greu trefniant newydd, Dwylo Dros y Môr 2020.

A bydd y cyfan i'w weld mewn rhaglen arbennig, Dwylo Dros y Môr 2020 a ddarlledir ar 27 Rhagfyr am 8pm.

Bydd y fersiwn newydd o'r gân, a gyfansoddwyd yn wreiddiol gan y canwr Huw Chiswell, ar gael i'w lawr lwytho o'r holl blatfformau digidol o 11 Rhagfyr.

Ac yn debyg i fwriad y gân nôl yn 1985, bydd cyfran o elw'r sengl hon yn mynd tuag at elusen hefyd - y tro hwn, Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru dan elusen Sefydliad Cymunedol Cymru.

Cronfa yw hon sy'n darparu cefnogaeth i fudiadau sy'n cynnig cymorth argyfwng i rai sydd wedi'u heffeithio gan Covid19.

Ymysg yr artistiaid sy'n rhoi bywyd newydd i hen gân mae Mared Williams, Rhys Gwynfor, Kizzy Crawford, Heledd Watkins (HMS Morris), Elidyr Glyn (Bwncath) ac Elin Fflur.

Mae ambell gyswllt teuluol rhwng y gân ddiweddaraf a'r un wreiddiol; mae'r chwiorydd Lisa, Gwenno a Mari o'r triawd di-gyfeiliant Sorela yn dilyn ôl troed eu mam, Linda Griffiths a ganodd yn 1985.

Mae Sion Land, mab drymiwr y gân wreiddiol, Graham Land hefyd yn cadw'r curiad 35 mlynedd yn ddiweddarach.

"Yn wreiddiol, 35 mlynedd yn ôl, codi arian ar gyfer argyfwng roedd yn digwydd ochr arall y byd oedd y bwriad; ond argyfwng go wahanol sydd eleni" meddai Elin Fflur.

"Mae 2020 di bod yn flwyddyn mor anodd - mae Covid wedi effeithio pob un ohonom ni, ond mae rhai pobl yn ein cymunedau wedi cael eu taro'n ofnadwy oherwydd y pandemig.

"A dyna pam fo Cronfa Gwydnwch Coronafirws Cymru Sefydliad Cymunedol Cymru yn bwysig; mae'n gweithredu ar lawr gwlad ein cymunedau ni.

"Ers ffilmio mae'r elsuen am rannu yr arian drwy eu Cronfa Ymateb ac Adfer Sefydliad Cymunedol Cymru, sy'n helpu sefydliadau ledled Cymru oroesi'r argyfwng yn uniongyrchol.

"Sw'n i'n annog pawb i brynu'r gân - 'da'n ni'n dal yng nghanol y pandemig, felly os ydyn ni'n medru helpu'r achos drwy lawr lwytho can, wel awe de!

A byddai'n fonws go iawn ei gweld yn cyrraedd brig y siartiau!"

Ac nid tasg hawdd yw cadw swyn cân mor adnabyddus ac eiconig:

Dwi'n caru'r gân wreiddiol gymaint; mae'r geiriau a'r melodi, y sain a sŵn y lleisiau yn plethu'n berffaith.

Felly ro'n i'n nyrfys iawn wrth feddwl bod ni am ail-greu'r gân 'ma, achos weithiau ddyliech chi ddim cyffwrdd caneuon sy'n gweithio mor dda.

Ond mae rhaid i mi ddeud, pan nes i glywed y fersiwn roedd Owain wedi'i wneud, nes i jest crio, achos roedd o wedi llwyddo i gadw'r teimlad a'r awyrgylch gwreiddiol mewn ffordd, ond wedi rhoi egni newydd iddi heb ei sbwylio hi.

Y cerddor Owain Gruffudd Roberts, sy'n sylfaenydd ac arweinydd y grŵp poblogaidd Band Pres Llareggub oedd â'r her o gydlynu'r holl beth:

"Roedd yn fraint o gael gwneud y sialens, ac o fewn dipyn, nes i sylwi ei fod yn big deal oherwydd bod y sain mor eiconig yn yr un cynta'!" meddai Owain, sy'n wreiddiol o Fangor ond bellach yn byw yn Llundain.

"Dwi'n meddwl mai'r ffordd nes i drio delio efo hynna oedd trio gwneud rhywbeth gwahanol, ac yn amlwg, mae'n anodd plesio pawb.

"Mae iddi sain o'r 80au felly ro'n i eisiau gwneud iddo swnio'n ffres fase ddim yn dyddio.

"Roedd y diwrnodau recordio yn gymaint o hwyl, ac roedd pawb mor bositif, ac roedd ryw buzz arbennig. O'n i mor hapus efo sut ddaeth yr holl beth at ei gilydd."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?