S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Kuradur Kliph: Talu teyrnged i Endaf Emlyn, athrylith dawel y sîn gerddorol Gymraeg

9 Rhagfyr 2020

Yn y bennod gyntaf arbennig hon o ail gyfres Curadur, mae'r drymiwr Kliph Scurlock, sydd wedi chwarae gyda Gruff Rhys, The Flaming Lips, Gwenno a llawer mwy, yn ein llywio trwy ei fordaith gerddorol wrth dalu teyrnged i'w arwr, yr athrylith Endaf Emlyn.

Mae Kliph, sy'n wreiddiol o Kansas yn yr UDA, bellach yn byw yng Nghaerdydd ac yn dysgu Cymraeg. Y tro cyntaf iddo glywed Cymraeg oedd trwy gerddoriaeth y band o Gaerfyrddin, Gorky's Zygotic Mynci. A thrwy Euros Childs, prif leisydd y band, daeth Kliph yn gyfarwydd â'r Super Furry Animals cyn dod yn ddrymiwr i Gruff Rhys yn ei gigs fel artist unigol.

Cafodd ei ysbrydoli gan gerddoriaeth Cymraeg ac yn y rhaglen hon, cawn ein cyflwyno i rai o'r cerddorion gwych sydd, yn ôl Kliph, wedi newid ei fywyd am y gorau.

Ond, mae 'na un eicon yn arbennig sydd, yn ôl Kliph, ddim yn cael y sylw y mae'n ei haeddu. Ers gwrando ar gerddoriaeth Endaf Emlyn, mae Kliph wedi gwirioni gyda'r eicon:

"Os dwi'n cael y cyfle i roi'r spotlight ar rywun, fe yw'r un." meddai Kliph.

Cawn glywed sgyrsiau a pherfformiadau hollol arbennig o ganeuon gwreiddiol a chaneuon Endaf Emlyn gan rhai o eiconau'r sîn gerddorol yng Nghymru a thu hwnt.

Mae Euros Childs yn canu Dwynwen, Gruff Rhys yn canu Nos Da ac Adwaith yn canu Syrffio (Mewn Cariad). Mae'r chwaraewr balafon ac offerynnau taro o Gini Conakry, yng Ngorllewin Affrica, N'famady Kouyaté, hefyd yn dewis canu Syrffio (Mewn Cariad). Mae perfformiadau pob un yn dod â rhywbeth unigryw ac arbennig iawn i ganeuon eiconig Endaf Emlyn.

Yn ogystal â hyn, mae Kliph yn tynnu'r artistiaid yma at ei gilydd er mwyn creu band arbennig i ganu un o ganeuon Endaf Emlyn, Santiago, gyda'r dyn ei hun yn gwylio'r perfformiad trwy linc fideo, ac yn synnu fod cymaint o sylw i'w waith:

"Oedd o'n syndod i fi bod y cerddorion gwych yma yn mynd i roi amser i'r pethau 'ma nes i hanner canrif yn ôl efallai. A dwi'n edrych ymlaen yn fawr i glywed dehongliad nhw o'r gwaith." meddai Endaf Emlyn.

Dyma raglen sydd llawn trysorau gan rhai o unigolion mwyaf eiconig y byd cerddorol yng Nghymru a thu hwnt.

Curadur – Kliph Scurlock

Nos Iau, 10 Rhagfyr, 10.00

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Orchard ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?