S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sypreis Nadolig cerddorol i wylwyr Pobol y Cwm

21 Rhagfyr 2020

Bydd anrheg Nadolig arbennig i ffans yr opera sebon poblogaidd Pobol y Cwm eleni wrth iddynt danio'r teledu i fwynhau hynt a helynt trigolion Cwmderi dros yr ŵyl.

Ar ddechrau rhifynnau Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig bydd gwylwyr yn cael mwynhau fersiwn Nadoligaidd o gerddoriaeth agoriadol adnabyddus Pobol y Cwm gan neb llai na Band Pres Llareggub.

Meddai Owain Roberts, arweinydd Band Pres Llareggub: "Mae'r gân yn un sydd mor eiconig mewn sawl ffordd - felly roedd hi'n grêt i gael y cyfle i roi sglein newydd ar y gân trwy ddefnyddio sain band pres, sef sain sy'n gysylltiedig efo'r Nadolig."

"Cawsom ni lot o hwyl a hefyd cawsom ni'r cyfle i arbrofi gyda chlychau fel clychau car llusg a chlychau crog. Rydym ni hefyd wedi ffitio blas bach o garolau tu fewn i'r gân - felly dyna sialens i wylwyr Pobol y Cwm - enwi'r ddau neu tri charol rydym ni wedi gweithio mewn i'r fersiwn Nadolig!"

Mae Nest Gwenllian Roberts, Cynhyrchydd y Gyfres Pobol y Cwm wrth ei bodd gyda thriniaeth Band Pres Llareggub o'r gerddoriaeth agoriadol.

Meddai Nest Gwenllian: "Mae pawb yn mwynhau sypreis fel anrheg Nadolig a dyma un o'r anrhegion y mae Pobol y Cwm yn ei roi eleni. Y Nadolig i mi yw clywed bandiau pres ar y stryd fawr neu'r archfarchnad, felly o'n i'n awyddus i ddathlu hwyl yr ŵyl heb adael y tŷ.

"Dw i'n ffan mawr o Fand Pres Llareggub, felly roeddent yn ddewis naturiol i fynd i'r afael â'r dasg a rhoi eu stamp Nadoligaidd ar gerddoriaeth enwog Pobol y Cwm. Roedd hi'n brofiad gwych cyd-weithio â'r band a dod a bach o rith y Nadolig i Gwmderi."

Felly dewch i fwynhau hwyl yr ŵyl gyda thrigolion Cwmderi a Band Pres Llareggub yn Pobol y Cwm ar Noswyl Nadolig a rhifyn awr o hyd ar Ddydd Nadolig am 8.00 ar S4C.

Pobol y Cwm Noswyl Nadolig a Dydd Nadolig am 8.00, S4C Isdeitlau Saesneg Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill Cynhyrchiad BBC Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?