S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen deledu Nadolig yn rhoi sylw i elusen sydd yn coginio prydau i drigolion bregus Caernarfon

21 Rhagfyr 2020

Mae elusen sydd wedi paratoi dros 18,000 o brydau cynnes rhad-ac-am-ddim i drigolion Caernarfon ers dechrau'r pandemig Covid-19 yn parhau i weithio'n galed dros gyfnod y Nadolig.

Ers dechrau mis Ebrill, mae Porthi Pawb wedi cyflenwi prydau wythnosol i aelodau bregus y gymuned. Cafodd yr elusen ei sefydlu gan Chris Summers o Gaernarfon, sydd yn brif gogydd ym mwyty'r Oyster Catcher yn Sir Fôn, fel ymateb i'r problemau daeth yn sgil y cyfnod clo gyntaf, megis pobl yn cael eu gorfodi i hunan ynysu adref, neu golli gwaith.

Bydd gwaith caled gwirfoddolwyr Porthi Pawb i'w weld mewn pennod arbennig o 'Dolig Epic Chris, fydd ymlaen ar nos Lun 21 Rhagfyr ar S4C. Yn y rhaglen, bydd Chris Roberts, cyflwynydd y gyfres Bwyd Epic Chris, a'i gefnder Chris Summers, yn paratoi gwledd i drigolion bregus ac unig y dref, sef Gŵydd Sbeislyd Steil Hong Kong gyda'r holl drimins.

Dywedodd Chris Roberts: "Mae'r Nadolig yma'n mynd i fod yn unig iawn i lot o bobl, ac yn y rhaglen arbennig yma oeddwn i eisiau tynnu sylw at y gwaith anhygoel mae Porthi Pawb yn wneud.

"Nes i a 'nghefnder Chris, sy'n chef anhygoel, gwcio gwledd 'Dolig i rai o drigolion unig a bregus Caernarfon. Oedd hi mor braf cael rhannu'r bwyd o gwmpas dre' a chael sgwrs efo pobl a gweld sut oedden nhw. Mae Porthi Pawb yn cynnig gwasanaeth hollol amazing a phwysig iawn."

Ychwanegodd Chris Summers, cydlynydd Porthi Pawb: "Naeth pawb lyfio'r bwyd naeth Chris baratoi, mi oedd o'n treat neis iddyn nhw. Naethon nhw fwynhau'r dylanwad o Asia efo'r Gŵydd Hong Kong.

"Da ni ddim am gymryd amser off dros Dolig chwaith, da ni am barhau i rannu bwyd allan ar Ragfyr 23 a 30. Ac wythnos yma, 'da ni am ddarparu pryd a phwdin 'Dolig i bawb sydd wedi gwneud cais, felly mae'n adeg brysur iawn i ni!"

Gan dderbyn bwyd am ddim wrth gyflenwyr ac archfarchnadoedd lleol, mae dros hanner cant o wirfoddolwyr yn dod at ei gilydd bob wythnos i baratoi cannoedd o brydau yng nghegin Ysgol Syr Hugh Owen, cyn eu dosbarthu i drigolion y dref. Pan oedd y galw ar ei uchaf yn ystod yr haf, roedd Porthi Pawb yn darparu prydau i dros 1,000 o bobl pob wythnos.

Meddai Chris Summers: "Yn y cyfnod clo cyntaf, oeddwn i'n eistedd yn y tŷ efo dim byd i wneud ac yn methu'r gegin, so nes i feddwl be oeddwn i'n gallu gwneud i helpu'r gymuned.

"Oeddwn i'n sgwrsio efo'r cynhyrchwyr bwyd lleol ac roedd ganddyn nhw lot o fwyd yn mynd i wast, so nes i dderbyn y bwyd yma efo'r golwg o fwydo ryw 30, ella 40 o bobl. Ges i fenthyg cegin i baratoi'r bwyd ac mi wnes i sefydlu tudalen Facebook Porthi Pawb yn egluro'r cynllun, i baratoi prydau parod i'r henoed a'r bregus yn y gymuned. Aethon ni o 60 pryd i 120 yn yr ail wythnos, a naeth o gario mlaen i ddyblu a dyblu eto. Doeddwn ni methu coelio faint o bobl oedd yn gwneud cais.

"'Da ni wedi symud ymlaen rŵan ac yn ogystal â phobl fwy bregus, da ni'n bwydo teuluoedd sydd mewn angen hefyd. Mae lot o bobl mewn trafferthion efo pres a gwaith ar y funud achos y pandemig, felly fe benderfynon ni fwydo pawb. Fe wnaethon ni sylweddoli ar ôl dod allan o'r cyfnod clo cyntaf fod pobl angen gwasanaeth fel hyn drwy'r flwyddyn, so 'da ni dal i wneud ryw 300 o brydau'r wythnos, i'r bobl sydd yn dibynnu ar y gwasanaeth yma.

"Mae'n dweud lot am bobl y dref bod gymaint o bobl yn barod i helpu pan mae pobl arall yn cael amser caled."

Bellach, mae'r grŵp wedi sefydlu prosiect ar y cyd o'r enw Porthi Plantos, sy'n paratoi prydau sydd yn fwy apelgar i blant ifanc. Yn ogystal, mae Porthi Plantos Dillad yn brosiect sydd yn ailgylchu dillad ar gyfer y rhai sydd eu hangen fwyaf.

Mae'r grŵp hefyd wedi cael ymholiadau ynglŷn ag ymestyn y prosiect i ardaloedd a threfi eraill yng ngogledd Cymru.

Ychwanegodd Chris: "Mae 'na lot o sgyrsiau 'di bod efo cynghorwyr o ardaloedd eraill i weld os oes 'na bosibilrwydd o sefydlu Porthi Pawb yn eu hardal nhw. Mae o'n reit anodd, achos mae o'n full on - mae o'n waith llawn amser i'r bobl sy'n rheoli'r prosiect. Ond mae'r sgyrsiau yna dal i fynd ymlaen, i drio mynd a Porthi Pawb i ardaloedd gwahanol.

"Mae o yn tyfu. Mae'r cynghorwyr Dawn Jones ac Eleri Lovgreen wedi sefydlu Porthi Plantos Dillad, lle 'da ni'n derbyn rhoddion dillad gan deuluoedd sydd ddim eu hangen dim mwy. Maen nhw'n rhoi nhw i ni, maen nhw'n cael eu golchi, sortio fewn i oedrannau gwahanol ac os oes 'na deulu sydd angen dillad mewn cyflwr da, mae croeso iddyn nhw gael nhw. Mae Porthi Pawb wedi ehangu mwy erbyn rŵan.

"Dydi o ddim yn amser hawdd i lot o bobl, felly da ni just yn falch i allu helpu pobl allan."

Bydd 'Dolig Epic Chris i'w weld am 8.00 ar nos Lun 21 Rhagfyr ar S4C, gyda'r gyfres newydd o Bwyd Epic Chris yn dechrau am 8.30 ar nos Lun 28 Rhagfyr.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?