S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Yr Amgueddfa yn agor y drws ar fyd tywyll a pheryglus

7 Ionawr 2021

Mae gwaith ffilmio wedi cychwyn ar Yr Amgueddfa - drama newydd wreiddiol a fydd yn cynnig genre newydd sbon wrth i wylwyr S4C gael y cyfle i fwynhau thriller cadwraethol am y tro cyntaf ar y sianel.

Yn cyrraedd ein sgriniau yn y Gwanwyn, mae Yr Amgueddfa wedi ei leoli yn Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd - ac mae'r ddrama hon yn mynd a ni i mewn i fyd tywyll a pheryglus trosedd celf.

Mae DELA HOWELLS (Nia Roberts) yn ddynes lwyddiannus, gwraig ffyddlon i ALUN (Steffan Rhodri) a mam gariadus i ddau o blant DANIEL (Samuel Morgan-Davies) a MAGS (Mared Jarman). Mae hi newydd dderbyn swydd fel cyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa ac mae bywyd yn dda.

Ar yr un noson mae'n dathlu ei swydd newydd mewn parti yn yr amgueddfa, mae hi'n cwrdd â dyn ifanc CALEB (Steffan Cennydd) sydd wedi dod fel gwestai i'w mab hoyw Daniel. Mae Dela'n cael ei swyno'n llwyr gan Caleb ac yn syrthio mewn i berthynas nwydus gydag e. Ond mae Dela'n darganfod fod gan Caleb fwriadau ychydig yn fwy sinistr wrth ddechrau perthynas â hi.

Boom Cymru (35 Diwrnod - Parti Plu, Parch) sy'n cynhyrchu'r ddrama sy'n serennu rhai o actorion mwyaf disglair Cymru sef Nia Roberts (Y Gwyll/Hinterland, Bang, The Crown, Craith/Hidden), Steffan Rhodri (Gavin and Stacey, A Very English Scandal), Sharon Morgan (Pobol y Cwm, Martha, Jac a Sianco) a Delyth Wyn (35 Diwrnod).

Mae hefyd sawl wyneb newydd ymysg y cast, gyda Steffan Cennydd (Craith/Hidden, Enid a Lucy), yn y brif ran fel Caleb, a Samuel Morgan-Davies a Mared Jarman yn chwarae plant Dela, Dan a Marged.

Yr awdur Fflur Dafydd, enillydd sawl gwobr Bafta am ei dramâu, sydd wedi creu a sgriptio Yr Amgueddfa ac mae'n gweithio unwaith eto gyda'r cynhyrchydd profiadol Paul Jones, a gynhyrchodd nifer o ddramâu gan gynnwys 35 Awr, Con Passionate, Martha, Jac a Sianco a Parch.

Mae Fflur yn cyfaddef bod ganddi obsesiwn gyda sefydliadau Cymru - hi ysgrifennodd Y Llyfrgell a'i droi mewn i ffilm o'r un enw wedi ei seilio yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth.

Meddai Fflur: "Mae'n braf gallu dod â sefydliadau Cymru i sylw mewn ffordd mwy creadigol. Mae'n rhyw fath o genhadaeth yn fy ngwaith i - mynd ar ôl y pethau sydd yn teimlo tipyn bach yn anweledig er eu bod nhw'n enfawr ac yn bwysig. Trwy greu genre fel y thriller cadwraethol, mae'n teimlo fel 'mod i'n creu rhywbeth sy'n reit unigryw i Gymru, a gan bod y thrillers confensiynol ychydig yn dreuliedig erbyn hyn, mae'n eitha' neis i fynd ar ôl trosedd yn y byd celf, lle mae 'na gyffro a chyfrinachau o fath gwahanol."

Meddai Paul Jones o gwmni gynhyrchu Boom: "Cof plentyn bychan, yn cael fy nhywys gerfydd fy llaw ar hyd orielau mawreddog rhodresgar yr Amgueddfa Genedlaethol, yna yn fy arddegau yr orielau yn guddfan ar aml bnawn Sadwrn rhag y glaw. Yn awr gyda Yr Amgueddfa, cael cyfle i ymweld unwaith yn rhagor â hi, a chreu drama llawn twyll a chynllwynio ar hyd ei horielau!"

Bydd Boom Cymru yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod i sicrhau fod y gwaith yn parhau mewn ffordd ddiogel.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?