S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Nigel Owens yn ymuno â chriw Clwb Rygbi ar gyfer y Chwe Gwlad

1 Chwefror 2020

Bydd Nigel Owens yn rhan o dîm Clwb Rygbi Rhyngwladol ar S4C ar gyfer Pencampwriaeth y Chwe Gwlad Guinness 2021.

Wedi iddo benderfynu rhoi'r gorau i ddyfarnu ar y lefel rhyngwladol, bydd dyfarnwr ffeinal Cwpan y Byd 2015 yn rhannu ei safbwynt ar berfformiadau Cymru gyda gwylwyr S4C drwy gydol y gystadleuaeth fel dadansoddwr Clwb Rygbi Rhyngwladol.

Meddai Nigel Owens: "Bydd e'n deimlad rhyfedd i beidio bod ar y cae yn y Chwe Gwlad Guinness eleni, ond rwy'n edrych 'mlaen i gymryd fy lle ar yr ystlys fel aelod o dîm Clwb Rygbi."

Mae Nigel yn ymuno â'r cyflwynydd Gareth Rhys Owen, gohebydd Catrin Heledd, a sawl un sydd wedi gwisgo'r crys coch dros y blynyddoedd, gan gynnwys Jamie Roberts, Rhys Patchell, Lloyd Williams, Sioned Harries, Nathan Brew, Andrew Coombs a Nicky Robinson.

Bydd cyn gapteiniaid Cymru, Gwyn Jones a Jonathan Davies yn ymuno â Cennydd Davies yn y blwch sylwebu yn ystod y bencampwriaeth, yn ogystal.

S4C yw'r unig ddarlledwr i ddangos pob un o gemau Cymru yn fyw ym Mhencampwriaeth eleni, gan gychwyn gyda'r gêm agoriadol yn erbyn Iwerddon yn y Stadiwm Principality, am 2.15yh ar brynhawn ddydd Sul 7 Chwefror.

Meddai Gareth Rhys Owen: "Mi fydd y Chwe Gwlad eleni yn wahanol iawn i unrhyw un arall ac mi fydd Caerdydd yn le gwahanol iawn ar benwythnos gêm fawr.

"Ar ôl Hydref eithaf sigledig i Gymru, mi fydd y chwaraewyr a'r hyfforddwyr yn benderfynol o wella ar eu perfformiadau diweddar a cheisio cystadlu am y bencampwriaeth.

"Gêm gartref yn erbyn Iwerddon yw'r her gyntaf, ac yn debyg i Gymru, mae'r Gwyddelod yn mynd trwy gyfnod o newid, felly mae 'na lot yn y fantol i'r ddau dîm."

Noddir darllediadau o gemau Chwe Gwlad tîm Dynion a thîm Menywod Cymru ar Clwb Rygbi Rhyngwladol, gan Isuzu.

Mae Clwb Rygbi Rhyngwladol yn gynhyrchiad BBC Cymru ar ran S4C.

DIWEDD

Clwb Rygbi Rhyngwladol: Chwe Gwlad 2021

Pob gêm Cymru yn fyw ar S4C

Cymru v Iwerddon - Dydd Sul 7 Chwefror, 2.15yh (CG 3.00yh)

Yr Alban v Cymru - Dydd Sadwrn 13 Chwefror, 4.00yh (CG 4.45yh)

Cymru v Lloegr - Dydd Sadwrn 27 Chwefror, 4.00yh (CG 4.45yh)

Yr Eidal v Cymru - Dydd Sadwrn 13 Mawrth, 1.30yh (CG 2.15yh)

Ffrainc v Cymru - Dydd Sadwrn 20 Mawrth, 7.15yh (CG 8.00yh)

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?