S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gethin Jones yw Pencampwr Mastermind Cymru 2021!

Yr wythnos hon, cyrhaeddodd cyfres Mastermind Cymru pen y daith wrth i Gethin Jones o Gaerdydd hawlio teitl Pencampwr Mastermind Cymru 2021 mewn cystadleuaeth frwd ar S4C ar nos Fercher y 3ydd o Chwefror.

Ar ôl misoedd o adolygu, dwy rownd fer oedd bellach rhwng y pedwar cystadleuydd a buddugoliaeth.

Y tri chystadleuydd arall yn y ffeinal oedd Tom Cosson, Gwas Sifil o Dalybont, gyda'i bwnc arbenigol am gestyll Cymru, Gwenno Hughes sy'n gweithio'n llawrydd yn y Cyfryngau yng Nghaerdydd yn ateb cwestiynau am ffilmiau The Lord of the Rings a Geraint Efans, Pensaer o Ddinorwig ger Caernarfon a ddewisodd hanes dringo creigiau yng Ngogledd Cymru.

Ond, dim ond un tlws oedd ar gael ac mi aeth honno i Gethin Jones, Arolygwr Staff Blaen Tŷ yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan a ddewisodd bywyd Lee Harvey Oswald, sef y dyn (yn ôl yr honiadau) a saethodd John. F. Kennedy ym 1963, fel ei bwnc arbenigol:

"Mae'n debyg mai lladd JFK oedd y digwyddiad sengl mwyaf arwyddocaol yn hanner olaf yr ugeinfed ganrif. Ac yn ei ganol o, gŵr di-nod, ifanc, ychydig wythnosau ar ôl ei bedwerydd ben-blwydd ar hugain."

Ond nid dyma'r tro cyntaf i Gethin roi cynnig ar y cwis enwog yma, gan iddo ymddangos ar y rhaglen Saesneg o Mastermind 30 'mlynedd yn ôl hefyd!

Yn ei rownd arbenigol, sgoriodd 11 pwynt heb ymatal ar unrhyw gwestiwn. Ac fel y cystadleuydd olaf, roedd yn rhaid iddo gyrraedd 20 pwynt yn y rownd gwybodaeth gyffredinol i ennill y tlws. Llwyddodd i gyrraedd 22 pwynt heb ymatal unwaith eto.

A thrwy gydol y gyfres, ni wnaeth Gethin ymatal ar unrhyw gwestiwn. Ydi o wedi bod yn dactegol â'i lygaid ar y tlws o'r cychwyn cyntaf, felly?

"Yn dactegol, yn sicr...Dwi ddim yn meddwl fod neb sydd wedi cymryd rhan wedi o ddifri meddwl ei bod nhw'n mynd i ennill. Mae o'n wir mai cymryd rhan ydi'r peth pwysicaf.

"Ond os 'da chi am lwyddo, mae 'na rai rheolau – peidiwch â meddwl gormod, dilynwch eich greddf ac os oes gennych chi unrhyw obaith o beidio ymatal, peidiwch â gwneud hynny."

A sut brofiad oedd cymryd rhan yn y gystadleuaeth y tro hwn?

"Mi oedd o'n brofiad gwych – ac anodd gwybod beth i ddisgwyl. Yn enwedig yn y cyfnod yma, er fy mod i wedi bod yn ffodus i barhau i weithio, dydi'r byd ddim 'run peth. Felly roedd hi'n braf cyfarfod pobl newydd sy'n hoffi'r un math o bethau ym mhob rownd…yn enwedig y cystadleuwyr hynny sydd wedi dysgu Cymraeg fel ail iaith."

Mae Gethin yn cyfaddef ei bod hi dal yn anodd credu'r peth:

"Beth oedd yn rhyfeddol oedd mynd yn ôl i'r gadair ar ôl ennill. Wrth gerdded gyda'r tlws i'r gadair, dyna oedd yr unig adeg nes i sylwi 'Argol, dwi 'di ennill!' Ac roedd rhaid mynd syth yn ôl i normalrwydd wedyn, a ddim yn cael dweud wrth neb. Felly dim ond yn yr ychydig o eiliadau yna nes i wir sylwi."

Meddai Betsan Powys, cwis feistr y gystadleuaeth:

"Am griw diddorol o gystadleuwyr, am ystod eang o bynciau arbenigol ac am enillydd haeddiannol! Roedd llygaid Gethin ar y wobr o'r rhaglen gyntaf un, a dwi wrth fy modd ei fod e wedi cael ei ddwylo ar y tlws ddeng mlynedd ar hugain ar ôl mynd amdani'r tro cyntaf. Dipyn o gamp."

Llongyfarchiadau mawr i Gethin!

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?