S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Rhaglenni dogfen gafaelgar mewn cyfres newydd o DRYCH

29 Ionawr 2021

Mae S4C wedi cyhoeddi y bydd cyfres newydd o DRYCH ar y sgrîn yn fuan gyda'r nod o adlewyrchu bywyd yng Nghymru heddiw.

Mae'r gyfres yn dechrau ddydd Sul 7fed o Chwefror gyda stori bersonol Pennaeth BBC Radio 1, Aled Haydn Jones am geisio cychwyn teulu.

Yn wreiddiol o Aberystwyth, mae Aled bellach yn bennaeth ar un o orsafoedd Radio mwyaf y byd, Radio 1 ac yn byw yn Llundain gyda'i bartner, Emile.

Er gwaethaf eu llwyddiant a'u gyrfa lewyrchus, mae bwlch mawr yn eu bywydau - maent yn dyheu am fod yn rhieni.

Bydd y rhaglen ddogfen yn dilyn eu hymgais i gyflawni eu breuddwydion gyda chymorth yr asiantaeth Surrogacy UK.

Maent yn cael eu paru â Dawn, sy'n falch iawn o fod yn fam fenthyg i'r cwpl, ac mae'r tri yn mynd â ni drwy daith emosiynol a dirdynnol o wyau, embryonau ac IVF.

Cynhyrchir y ffilm Aled Haydn Jones: Ti, Fi a'r Fam Fenthyg gan Wildflame Productions.

Hefyd yn y gyfres, mae'r cynhyrchydd ffilmiau Nia Dryhurst yn adrodd ei stori bersonol yn y rhaglen Chwaer Fach, Chwaer Fawr.

Ar ôl dilyn llwybrau hollol wahanol mewn bywyd, tyfodd bwlch enfawr yn ei pherthynas â'i chwaer, Llinos, hyd yn oed ymhellach. Er i'r ddwy ddychwelyd i'w tref enedigol, parhaodd y pellter.

Mae damwain ofnadwy yn gorfodi'r ddwy i ail-ystyried eu perthynas. A all y ddwy chwaer ddod yn ffrindiau? Mae hon yn ffilm onest, amrwd yn llawn tensiwn ac emosiwn.

Trigolion y Rhondda sy'n ymddangos yn y drydedd raglen, DRYCH: Rhondda wedi'r glaw, nos Sul 21ain o Chwefror a gynhyrchir gan Rondo Media.

Ym mis Chwefror 2020, mewn cyfnod o 48 awr, syrthiodd gwerth mis o law ar Gwm Rhondda a'r cyffiniau. Dros nos, collodd nifer o deuluoedd bopeth i lifogydd dinistriol Storm Dennis.

Rydym yn clywed gan rai o'r bobl leol wrth iddynt geisio ailadeiladu eu cartrefi a'u bywydau o dan gwmwl Covid gan ofni y gallai'r llifogydd ddychwelyd.

Gwelwn sut mae'r gymuned agos yn ymdopi â'r hunllef, drwy wenu a dagrau, yn ogystal â gofyn beth achosodd y llifogydd.

Byddwn yn ymweld â Phen Llŷn ar 28 Chwefror, i ymgolli ym mywyd anodd ac unigryw grŵp o bysgotwyr wrth iddynt ymdrechu i gadw eu pennau uwchben dŵr.

Mae Y Pysgotwyr a gynhyrchwyd gan Rondo Media yn adlewyrchu rhamant ac apêl y grefft hynafol ac yn tynnu sylw at yr heriau digynsail sy'n bygwth y diwydiant.

"Mae DRYCH wedi bod yn frand sefydlog i S4C ers cryn dipyn o flynyddoedd" meddai Llinos Wynne, Comisiynydd Ffeithiol S4C.

"Ein nod yw creu ffilmiau gafaelgar sy'n adlewyrchu bywydau pobl Cymru.

"Rydym am fynd i'r afael a phynciau mawr y dydd drwy lygaid y Cymry gan ddod â nhw'n fyw gyda'n cyfresi ffeithiol apelgar o ansawdd uchel.

"Mae brand DRYCH yn ein galluogi i dargedu gwahanol grwpiau oedran gydag amrywiaeth o bynciau, a'u grwpio i ddogfennau amserol a phriodol."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?