S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyfle i bobl Cymru ennill Guinness World Record

5 Chwefror 2021

Sawl nodyn gludog allwch chi osod ar eich wyneb mewn 30 eiliad? Pa mor gyflym allwch chi wisgo 10 crys-t? Pa mor gyflym allwch chi symud bisged wedi ei lenwi a hufen o'ch talcen i'ch ceg? Sawl cwdyn te allwch chi eu taflu i mewn i gwpan?

Dyma'r heriau sy'n wynebu pobl Cymru wrth i ni unwaith eto ddathlu Dydd Gŵyl Dewi gyda phartneriaeth rhwng S4C, cwmni Orchard a Guinness World Records.

Y llynedd, diolch i'r cyfryngau cymdeithasol, cafodd miliynau o bobl ledled y byd y cyfle i weld y doniau unigryw sydd gan Gymru i'w cynnig, gyda saith camp yn cael eu cydnabod gan ddyfarnwyr Guinness World Records fel rhai 'hollol anhygoel'. Aeth hyn â Chymru a'r iaith Gymraeg ledled y byd i dros 11 miliwn o bobl drwy TikTok, Instagram ac amrywiaeth o lwyfannau cymdeithasol eraill.

Eleni mae'r her yn ôl, gyda nifer o sialensau newydd i fynd amdani yn y cyfnod cyn 1 Mawrth. Dyma eich cyfle chi i ddod yn fyd-enwog, ymddangos mewn rhaglen S4C, cael eich gweld gan filiynau o ddilynwyr y cyfryngau cymdeithasol ar draws y byd a sicrhau eich lle yn rhifyn 2022 o'r llyfr Guinness World Records sydd ar werth ym mis Medi.

A dyma gyfle i bobl Cymru greu Guinness World Record newydd sbon - a dyma'r records sydd ar gael:

Y nifer mwyaf o nodiadau gludiog wedi'u gosod i'r wyneb mewn 30 eiliad (cofnod cyfredol - 38)

Amser cyflymaf i wisgo 10 crys-t amdanoch

Amser cyflymaf i symud bisged wedi ei lenwi a hufen o'r talcen i'r geg

Y nifer mwyaf o fagiau te yn cael eu taflu mewn i fwg mewn 30 eiliad

Os hoffech chi roi cynnig ar dorri un o'r Guinness World Records hyn, cofrestrwch eich diddordeb drwy ymweld a https://guinnessworldrecord.thinkorchard.com/

Dywedodd Craig Glenday, Prif Olygydd Guinness World Record: "Rydym wrth ein boddau i allu dathlu talent pobl Cymru yn torri recordiau i anrhydeddu Dydd Gŵyl Dewi. Y llynedd gwelsom sawl record arbennig ac rydym yn awyddus iawn i glywed am y sialensiau newydd bydd pobl yn mynd amdanynt. Tybed a bydd rhai ymysg y bobl sy'n ceisio am record yn ennill lle yn y llyfr Guinness World Records? Rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn i weld y canlyniadau!"

Bydd cwmni Orchard o Gaerdydd yn cynhyrchu rhaglen arbennig sy'n cynnwys pob un o'r ymdrechion sy'n torri record eleni. Fe fydd y rhaglen yn cael ei darlledu ar S4C yn ystod mis Mawrth.

Dywedodd cyflwynydd y rhaglen Alun Williams: "Cawsom ni gymaint o hwyl llynedd yn gwneud y pice ar y maen mwyaf erioed a rhyfeddu at sgiliau dawnsio Tudur Phillips yn diffodd canhwyllau gyda'i sodlau. Yn amlwg mae pethau yn mynd i fod bach yn wahanol blwyddyn yma - ond mae 'na dal cyfle i ni gael llawer o hwyl - ac efallai torri record neu ddau!

"Mae'r recordiau y tro hwn - fel her y crysau-t neu'r un gyda'r nodiadau gludiog - yn rhai sy'n hawdd iawn eu gwneud yn ddiogel yn eich cartref gyda'r teulu cyfan . Hefyd mae'n rhywbeth llawn hwyl a hollol wahanol i bobl wneud yn ystod cyfnod y clo. Felly ewch amdani - mae'n llawer o hwyl a da chi byth yn gwybod - efallai byddwch chi'n creu record newydd!"

Dywedodd Rob Light, cynhyrchydd gweithredol cwmni Orchard: "Cawsom ni ymateb mor wych yn fyd-eang o ymgyrch Dydd Gŵyl Dewi y llynedd, fel bod yr holl bartneriaid yn awyddus iawn i gydweithio eto eleni, gan ddarlledu talent unigryw Cymreig a lledaenu'r iaith Gymraeg ledled y byd.

"Hefyd, roeddem yn awyddus iawn i greu hyd yn oed mwy o gyffro eleni, ac ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl Cymru, a'u cariad at Guinness World Records. Gyda chymaint o bobl yn dal i fod yn gaeth i'r tŷ, rydym wedi sefydlu heriau sy'n gallu cael eu cyflawni'n hawdd yn eu cartrefi eu hunain. Credwn y bydd yr ymateb yn enfawr."

Yn 1955 cafodd y llyfr Guinness World Records cyntaf ei gyhoeddi. Bellach, mae'r brand aml-gyfrwng wedi ymestyn i bob cwr o'r blaned, gyda swyddfeydd yn Llundain, Efrog Newydd, Miami, Beijing, Tokyo a Dubai. Nawr, mae cynnwys y cwmni yn cael ei rannu drwy lyfrau, rhaglenni teledu, cyfryngau cymdeithasol a digwyddiadau byw.

DIWEDD

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?