S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Owen Derbyshire yw Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol newydd S4C

11 Chwefror 2021

Mae S4C wedi cyhoeddi heddiw fod Owen Derbyshire wedi ei benodi i swydd newydd Cyfarwyddwr Marchnata a Digidol S4C.

Mae Owen sy'n dod o Gaerdydd wedi bod yn gweithio fel Ymgynghorydd Digidol llawrydd gan sefydlu cwmni ei hun, Datblygu Cymru lle bu'n cefnogi busnesau a mentrau cymdeithasol i ffynnu.

Mae Owen hefyd yn aelod o Gyngor Partneriaeth y Gymraeg, aelod o Fwrdd Shelter Cymru, a bu'n aelod o Fwrdd Unedol S4C.

Yn rhan o'i swydd newydd bydd Owen yn gyfrifol am adrannau digidol a chyfryngau cymdeithasol S4C, yn ogystal â'r timau brand a delwedd, hyrwyddo a chyflwyno.

Meddai Owen Derbyshire:

"Rwy'n edrych ymlaen yn fawr i ymuno gyda S4C yn y rôl allweddol hon.

"Rwy'n gobeithio gallu defnyddio fy mhrofiad ym maes digidol ac ymgynghori i adeiladu ar y gwaith da mae S4C wedi ei wneud i ddatblygu'n ddigidol yn y blynyddoedd diwethaf.

"Yn sicr mae'n gyfnod cyffrous i'r sianel ac mae'n fraint cael ymuno gyda'r tîm."

Dywedodd Owen Evans, Prif Weithredwr S4C:

"Llongyfarchiadau i Owen ar ei benodiad i'r swydd newydd hon.

"Yn ogystal â phrofiad lefel uchel yn y byd digidol, mae gan Owen ymwybyddiaeth glir o'r maes darlledu, ac mi fydd y profiad hwn yn allweddol iddo yn y rôl newydd hon gydag S4C.

"Mae apwyntiad Owen yn rhan glir o'n strategaeth i wir fabwysiadu defnydd y byd digidol a data er mwyn gwella ac ehangu ein perthynas efo'r gynulleidfa.

"Rwy'n edrych ymlaen at ei groesawu i blith y staff yn fuan ac i gyd-weithio'n agos ag ef mewn cyfnod pwysig i S4C.

"Bydd ei brofiad yn sicr yn werthfawr i'r sianel yn y misoedd a'r blynyddoedd i ddod."

Bydd Owen yn cychwyn ar ei swydd newydd ar yr 8fed o Fawrth.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?