Y Wasg

Y Wasg

Cystadleuaeth fwyaf Cymru ar lwyfan mwyaf Cymru

Mae Cân i Gymru yn ôl! Ac eleni, mewn cydweithrediad â Chanolfan Mileniwm Cymru, bydd S4C yn darlledu'r gystadleuaeth eiconig o lwyfan mwyaf eiconig y wlad, Theatr Donald Gordon.

Mi fydd y gystadleuaeth yn cael ei ddarlledu ar nos Wener, y 5ed o Fawrth, gydag Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris yn ôl i gyflwyno. Mi fydd 8 cân yn mynd yn erbyn ei gilydd am y siawns i ennill £5,000 a'r teitl Cân i Gymru 2021.

Hefyd, bydd cyfle unigryw i deuluoedd led led y wlad ymuno yn yr hwyl o'u cartrefi drwy fod yn rhan o'r gynulleidfa rithiol. Os oes diddordeb gennych chi gymryd rhan, cysylltwch â canigymru@avantimedia.tv.

Dywedodd Graeme Farrow, Cyfarwyddwr Artistig Canolfan Mileniwm Cymru:

"Mae'n fraint ac yn bleser croesawu Cân i Gymru, cystadleuaeth eiconig S4C, i Ganolfan Mileniwm Cymru eleni – eleni'n fwy nag erioed.

"Fel cartref y celfyddydau yng Nghymru, ein cenhadaeth yw rhoi cyfoeth doniau Cymru - artistiaid sefydledig ac egin artistiaid – ar ein llwyfannau o flaen cynulleidfaoedd enfawr. Mae gan Cân i Gymru dros 50 mlynedd o brofiad o wneud yn union yr un peth.

"A hithau'n flwyddyn mor anodd i artistiaid, mae'n bleser ein bod ni'n gallu cydweithio i gyflwyno'r sioe arbennig hon sy'n ddathliad o gyfansoddi."

Dywedodd Elen Rhys, Comisiynydd Adloniant S4C:

"Mae S4C yn falch iawn bod un o'n prif gystadlaethau yn medru digwydd eleni, a hynny ar brif lwyfan ein gwlad. Mae Cân i Gymru yn rhan bwysig o amserlen S4C bob blwyddyn ac mae cael arddangos y gystadleuaeth ar lwyfan enwog Theatr Donald Gordon yn arbennig iawn – yn sicr dyma'r ddeuawd berffaith!"

Bydd Avanti Media yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau mae Llywodraeth Cymru wedi'u gosod i sicrhau fod y gwaith yn parhau mewn ffordd ddiogel.

Cân i Gymru

Nos Wener, 5ed o Fawrth, 8.00

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Avanti Media ar gyfer S4C