S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cyhoeddi enillydd Her Ffilm Fer Hansh 2021

17 Chwefror 2021

Mae beirniad Her Ffilm Fer Hansh 2021 wedi dewis enillydd o blith yr holl ymgeiswyr; ffilm o'r enw Y Gyfrinach, gan Cai Rhys.

Dros gyfnod o 48 awr penwythnos diwethaf, fe osododd Hansh yr her i gystadleuwyr greu ffilm fer wreiddiol i ddathlu Mis LHDT+.

Ar ddechrau'r cyfnod 48 awr, fe gyhoeddwyd fod rhaid cynnwys y thema o hapusrwydd o fewn y ffilm, yn ogystal â chynnwys tro yn y cynffon neu cliffhanger.

Yn beirniadu'r gystadleuaeth, roedd: Gwenllïan Gravelle, Comisiynydd Drama S4C Drama, Berwyn Rowlands, Cyfarwyddwr Gŵyl Iris, yr actor a chyfarwyddwr Lee Haven Jones a'r cyfarwyddwr a sgriptiwr Amy Daniel.

Gyda chyfanswm o 16 ffilm yn cael eu creu ledled Cymru a thu hwnt, fe ddaeth y panel i'r penderfyniad mai'r ffilm Y Gyfrinach, oedd yn fuddugol.

Bydd yr enillydd, Cai Rhys, yn derbyn gwobr o fil o bunnoedd, yn ogystal â thocyn VIP i Wŷl Gwobrau LHDT+ Iris yng Nghaerdydd ym mis Hydref, lle fydd Y Gyfrinach yn cael ei dangos.

Fe fydd hefyd yn cael y cyfle i ddatblygu ei syniad ffilm ymhellach gydag Academi Ffilm Iris, sef cynllun sydd yn cael ei redeg mewn partneriaeth gydag S4C a Phrifysgol De Cymru.

Cyhoeddwyd y feirniadaeth yn fyw ar Facebook Live a Hansh nos Fawrth 16 Chwefror gan gyflwynydd y gystadleuaeth, y comedïwr Steffan Alun.

Meddai Gwenllïan Gravelle: "Roedd hi'n dipyn o her i'r bobl oedd yn cystadlu, ond dwi'n falch fod pawb wedi cymryd rhan.

"Roedd 'na elfennau gwych o greadigrwydd a dyfeisgarwch i'w gweld yn y ffilmiau.

"Roeddwn i'n meddwl fod 'na lot i'w edmygu, yr animeiddio yn rhai o'r ffilmiau, y goleuo, y fframio, ac mi oedd y perfformiadau hefyd yn grêt.

"Y tair ffilm ddaeth i'r brig i fi oedd Brwydro, Y Gyfrinach a Gêm o Gariad, tair ffilm wahanol iawn. Ond gan ei fod wedi ymateb yn iawn i'r brîff, y Gyfrinach sy'n mynd â hi."

Meddai Berwyn Rowlands: "Roedd dewis y tri uchaf yn hawdd i mi, ond roedd dewis yr enillydd yn anodd. Yn y tair ffilm, nes i ddewis ffilmiau ble roedd perfformiadau cryf gan yr actorion.

"Dw i'n hapus iawn i gadarnhau mai Y Gyfrinach yw fy newis i."

Meddai Lee Haven Jones: "Beth sy'n rhyfeddol i mi yw fy mod i wedi treulio 16 wythnos yn creu pennod o Dr Who ar gyfer Dydd Calan, a bod y bobl wnaeth ymgeisio wedi treulio 48 awr yn creu ffilmiau sydd yr un mor deilwng â phennod o Dr Who!

"Mae'n rhyfeddol fod pobl wedi llwyddo i wneud gymaint mewn cyn lleied o amser."

Meddai Amy Daniels: "Dw i wedi mwynhau gwylio'r holl ffilmiau a dw i'n meddwl fod yr amrywiaeth yn rili da; ffilmiau doniol, trist a rhai ffilmiau eithaf rhyfedd hefyd.

"Mae pob ffilm wedi dangos ymdrech dda iawn, felly llongyfarchiadau i bawb yn y gystadleuaeth. Fy newis i yw Y Gyfrinach."

Mae'r pum ffilm daeth i frig y gystadleuaeth i'w gweld nawr ar wefan www.herffilmfer.cymru.

Gwyliwch raglen deledu Her Ffilm Fer ar nos Wener 26 Chwefror am 10.05yh, ar S4C, i weld a chlywed mwy am y ffilmiau.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?