S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​Wythnos o ddathliadau Gŵyl Ddewi ar S4C

26 Chwefror 2021

Bydd S4C yn nodi Gŵyl Ddewi gyda wythnos lawn dop o raglenni i ddathlu'r iaith a chymreictod.

Bydd y cyfan yn cychwyn Nos Sul 28 Chwefror gyda rhifyn arbennig o Dechrau Canu Dechrau Canmol gyda'r darlledwr Huw Edwards.

Bydd Huw yn cerdded taith y pererin o berfeddion Ceredigion draw i'r arfordir ac ymlaen i waelod Sir Benfro, gan alw mewn ambell le sydd â chysylltiad agos gyda Dewi Sant a sydd hefyd yn agos iawn at ei galon.

Yna nos Lun 1 Mawrth bydd Dewi Pws yn westai i Elin Fflur ar Sgwrs Dan y Lloer.

Bydd Dewi yn trafod cyfnod pwysig yn ei fywyd pan wnaeth ddarganfod ei gymreictod yn bymtheg oed yng Ngwersylloedd yr Urdd yn Llangrannog a Glan-llyn ac Aelwyd yr Urdd yng Nghapel Treforys.

Bydd Heno a Prynhawn Da yn cynnig digonedd o ddathlu gydag eitemau coginio, cerddoriaeth, crefft ac wrth gwrs lluniau Gŵyl Ddewi'r gwylwyr i'w mwynhau.

Bydd fideos arbennig yn cael eu rhyddhau ar blatfform Hansh hefyd gan gynnwys Hansh Bacc - Dewi Sant, sef hanes Dewi Sant drwy lygaid dychanol Llywela Ann, ac Ofergoelion Dydd Gŵyl Dewi lle fydd Elen a Nia yn 'debunkio' rhai o'r traddodiadau mwyaf adnabyddus .

Hefyd bydd nifer o bobl ar draws Cymru yn ceisio torri recordiau byd Guinness, gan gynnwys Tudur Phillips yn ceisio torri record byd ei hun am ddiffodd canhwyllau gyda'i draed a rhai o gynulleidfa S4C yn cael hwyl wrth geisio torri recordiau yn eu cartrefi.

Bydd clipiau yn cael eu rhyddhau yn gyson yn ystod y dydd ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol S4C a Guinness World Records.

I'r plant ieuengaf fe fydd pennod newydd o Sali Mali: Dydd Gŵyl Dewi i'w weld ar fore 2 Mawrth.

Uchafbwynt yr wythnos fydd cystadleuaeth eiconig Cân i Gymru, yn fyw eleni o Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru.

Ymunwch ag Elin Fflur a Trystan Ellis Morris ar nos Wener 5 Mawrth i weld pwy fydd yn ennill gwobr o £5,000 a theitl enillydd Cân i Gymru 2021.

Ac i orffen y dathliadau bydd cyfle arall i fwynhau Cyngerdd Gŵyl Ddewi Bryn Terfel ar nos Sadwrn 6 Mawrth o Neuadd Dewi Sant Caerdydd gyda Cherddorfa a Chorws Cenedlaethol Cymreig y BBC dan arweiniad Gareth Jones.

Yn rhannu'r llwyfan gyda Bryn Terfel, bydd y soprano Menna Cazel, y delynores Hannah Stone ynghyd â Chôr Cenedlaethol Ieuenctid Cymru.

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Cynnwys S4C: "Fel sianel genedlaethol ry'n ni wrth ein boddau yn dathlu dydd ein Nawdd Sant gyda'n gwylwyr, a pa ffordd well o wneud hynny na chynnig gwledd o ddewis iddynt.

"Beth bynnag, lle bynnag, pryd bynnag mae pobl ishe gwylio, byddwn ni yma iddynt. Rydym hefyd yn falch o gydweithio gyda'r BBC i hyrwyddo rhai o'n rhaglenni plant mwyaf poblogaidd ar BBC iPlayer."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?