S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Bregus: Drama seicolegol newydd ar S4C ym mis Mawrth

Mae Bregus, drama gyffrous a newydd sbon wrthi'n cael ei chynhyrchu ar hyn o bryd, ac mi fydd hi i'w gweld ar S4C ar nos Sul, Mawrth 21, fel rhan o gyfres o ddramâu gwreiddiol newydd ar y sianel.

Wedi'i gynhyrchu gan Fiction Factory (Y Gwyll), bydd Bregus yn cael ei ddarlledu yn y slot ddrama nos Sul, gan roi cyfres gyffrous a thywyll i gadw cynulleidfaoedd ar flaen eu seddi.

Mae'r gyfres ddrama 6 rhan yn canolbwyntio ar fywyd Ellie, sydd ar yr wyneb, yn ymddangos yn hollol berffaith. Mae gan Ellie, sy'n cael ei chwarae gan Hannah Daniel (Un Bore Mercher/Keeping Faith, Y Gwyll/Hinterland), y cyfan - gŵr gariadus, merch fach hyfryd a grŵp o ffrindiau agos. Maen nhw'n dibynnu ar ei gilydd, yn deulu.

Ond beth sy'n digwydd pan mae trasiedi'n taro ac yn dangos ochr arall i Ellie gan fygwth ffasâd ei bywyd a chwalu ei phen?

Crëwyd y gyfres gan Mared Swain a Ffion Williams yn ôl yn 2018.

"Roeddem yn ddwy fam brysur (fel pob rhiant!) yn ceisio, ac yn aml yn methu, bwrw'r balans rhwng bywyd pob dydd a gwaith. Mwy nag erioed roedd y ddwy ohonom ni'n teimlo pwysau byd oedd yn ddiarth i ni, ac yn ysu i greu cyfres oedd yn adlewyrchu'r teimladau yma." meddai Ffion.

"Ers y cychwyn o ni ishe creu prif gymeriad benywaidd (Ellie), sy'n bihafio mewn ffordd yr ydym ni wedi arfer gweld dynion yn bihafio ar sgrîn ers blynyddoedd. Rhywbeth sy'n ein diddori ni'n fawr fel crewyr, yw sut ydym ni fel cymdeithas yn barnu menywod a dynion am eu gweithredoedd.

"Rydym ni'n gyffrous iawn i weld sut fydd y gynulleidfa yn ymateb i Ellie, menyw sydd ddim wastad yn dilyn y stereoteip. Mam sydd ddim wastad yn famol, ffrind sydd ddim wastad yn meddwl, llawfeddyg sydd ddim bob tro'n gallu achub bywyd, a gwraig sydd ddim wastad yn ddibynadwy."

Dywedodd Gwenllian Gravelle, Comisiynydd Drama S4C:

"Mae drama wedi bod yn ffynhonnell wych o adloniant i'r cyhoedd yn ystod pandemig Covid-19, wrth ganiatáu'r gynulleidfa ddianc o fywyd bob dydd a phlymio i mewn i ramant, antur a drama. Rydym yn hynod falch o lansio cyfres arall wreiddiol a newydd sbon ar S4C, y tro hwn yn ôl yn y slot poblogaidd nos Sul.

"Mae Bregus yn stori am fenyw sy'n byw bywyd y mae pawb eisiau, ond sydd â chyfrinach a fydd, os na fydd hi'n dysgu ei reoli, yn cael gwared ar ei phwyll a'i dinistrio. Mae'n ddrama sydd â digon o gig ar yr asgwrn a fydd yn sicr yn gwneud i bobl ymgolli'n llwyr ynddo."

Bydd Fiction Factory yn dilyn yr holl ganllawiau, deddfwriaeth a phrotocolau a osodwyd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y gwaith yn cael ei weithredu'n ddiogel.

Bregus

Nos Sul, 21 Mawrth, 9.00

Isdeitlau Saesneg

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Fiction Factory ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?