S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch uchafbwyntiau Super Rugby Aotearoa ar S4C

23 Mawrth 2021

Mae Super Rugby Aotearoa yn dychwelyd i S4C wythnos yma.

Bydd rhai o chwaraewyr rygbi gorau'r byd i'w gweld wrth i bum tîm proffesiynol Seland Newydd – Hurricanes, Highlanders, Blues, Chiefs, a phencampwyr y llynedd, Crusaders – fynd benben â'i gilydd am y bencampwriaeth Super Rugby Aotearoa.

Gyda saith rownd yn weddill yn y gystadleuaeth, bydd rhaglen yn cael ei dangos bob nos Sul gydag uchafbwyntiau estynedig o ddwy gêm y penwythnos. Bydd sylwebaeth Saesneg ar gael yn ogystal.

Yn cyflwyno'r gemau i wylwyr S4C bydd Lauren Jenkins, gyda Gareth Charles a Gareth Roberts yn y blwch sylwebu.

Ymysg yr enwau fydd yn dadansoddi'r gemau bydd chwaraewyr Cymru, Rhys Patchell, Gareth Anscombe a chyn-wythwr Gleision Caerdydd, Nick Williams.

Bydd y gyfres yn cychwyn ar nos Sul 28 Mawrth am 10.00yh, gydag uchafbwyntiau o Highlanders v Hurricanes a Chiefs v Blues.

Bydd y cyfan hefyd ar gael i'w wylio ar alw ar S4C Clic.

Uchafbwyntiau Super Rugby Aotearoa

Nos Sul 28 Mawrth, 10.00yh

Sylwebaeth Saesneg

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Whisper Cymru ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?