S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

“Ar un llaw, ti rili ddim isio denu pobl i’r ardal ar hyn o bryd, ac ar y llaw arall ti’n meddwl ‘mae’n rhaid i ni’”.

25 Mawrth 2021

Mae Parc Cenedlaethol Eryri yn un o'n prif atyniadau ni yng Nghymru – yn llawn harddwch naturiol ac yn cynnwys rhai o lwybrau cerdded mwyaf rhyfeddol y byd. Dyma Barc Cenedlaethol mwyaf Cymru ac mae Eryri'n gartref i fynydd uchaf a llyn naturiol mwyaf y wlad, ynghyd â chyfoeth o bentrefi prydferth.

Mae tua 600,000 o bobl yn teithio i fyny'r Wyddfa pob blwyddyn, gyda'r niferoedd wedi codi'n aruthrol dros y ddeg mlynedd ddiwethaf. Ond, wrth i bandemig Covid-19 daro gwledydd Prydain (a'r byd) yn 2020, bu'n rhaid i'r Parc Cenedlaethol wynebu heriau a rhwystrau na welwyd erioed o'r blaen. Ac maen nhw'n heriau sy'n parhau hyd heddiw.

Mewn rhaglen ddogfen newydd fydd i'w gweld ar S4C ar nos Iau 1 Ebrill am 9.00 yr hwyr cawn ein tywys o gwmpas y parc, a chael darlun go wahanol o'r lle trwy lygaid rhai o'r unigolion sy'n byw a gweithio yma ar gyfnod nas gwelwyd ei debyg yn hanes Parc Cenedlaethol hynaf Cymru.

Ym mis Gorffennaf 2020, wrth i'r cyfyngiadau i aros yn lleol lacio, a chaniatáu i bobl deithio unwaith eto, mae Helen Pye, Pennaeth Ymgysylltu Parc Cenedlaethol Eryri, yn paratoi am yr ail-agor:

"Mae o bach fel aros am storm, a ti ddim yn gwybod os mae'r storm yn mynd i gyrraedd neu beidio â'r oll fedri 'di neud ydi paratoi ar gyfer y gwaethaf a gobeithio am y gorau."

Ond, yn fuan ar ôl ail-agor, mae'r prysurdeb yn profi'n ormod. Mae rhesi o geir di-ben-draw yn parcio'n anghyfreithlon a pheryglus ar Ben-y-Pass gyda meysydd parcio'r parc yn llawn am 3 y bore. Erbyn i'r staff gyrraedd am 7, roedd y ceir yn ymestyn can llath i lawr y brif ffordd, gan achosi problemau traffig difrifol.

Un o'r Wardeniaid Cynorthwyol, sy'n cyfeirio'r ceir i'r system parcio a theithio yw Keith Ellis:

"Mae'r rhan fwyaf o bobl yn iawn...mae pobl wedi bod o dan bwysau mawr ac ofn achos y pandemig, mae pawb isio dod allan a chael awyr iach. Mae'n braf gweld pobl yn ôl. Mae isio croesawu pobl yn ôl - 'da ni'n dibynnu ar y prês yn dod i'r ardal - ond mae pobl isio bod yn gall hefyd pan maen nhw'n troi fyny.

"Mae isio cael plan A, B a C ac os ydi hi'n rhy brysur meddwl os ydi hi'n saff i fod yma."

Un pentref ble mae sawl problem wedi amlygu eu hun ydi Llanberis, wrth droed yr Wyddfa. Wrth grwydro'r pentref mae'r Cynghorydd lleol, Kevin Morris Jones, yn sylwi fod nifer o ymwelwyr yn parcio mewn safle preswylwyr yn unig yn hytrach na thalu yn y maes parcio lleol.

Mae tensiynau rhwng twristiaid sy'n ymweld ag Eryri a thrigolion yr ardal wedi bodoli ers blynyddoedd, ond yn 2020, mae Covid-19 wedi amlygu'r tensiynau cymdeithasol yma yn fwy nag erioed.

Mae un o drigolion Llanberis wedi gweld y prysurdeb yn cynyddu ers i'r rheolau lacio yn Lloegr ac mae'r tensiwn rhwng trigolion y pentref a'r ymwelwyr yn gwaethygu hefyd, yn enwedig wrth i fwy a mwy o bobl barcio ar y stryd yn oriau mân y bore i fynd i fyny'r Wyddfa gan greu dipyn o sŵn tra mae'r cymdogion yn ceisio cysgu.

Pentref arall sy'n denu nifer fawr iawn o dwristiaid i ogledd Cymru yn flynyddol yw Beddgelert. Mae Ffion Davies o'r Cyngor Cymuned yn bryderus am faint mwy o bobl y gall y pentref ymdopi ag o, ac yn teimlo mwy o bwysau nag erioed gan eu bod nhw bellach yn gorfod gwarchod iechyd, diogelwch a lles pobl y gymuned.

Un sy'n byw efo dau o feibion ifanc yn y pentref yw Erynne Watson, sydd wedi gweld effaith y gormodedd o bobl ar ei phlant ifanc:

"Dydyn nhw ddim isio dod allan o'r tŷ i'r pentref. Da ni wedi trio dod i lawr yma ac roedd un o fy mhlant bron iawn a chael panic attack achos doedd na neb yn cadw'r 2 fetr. Dydyn nhw ddim yn gweld bod o'n deg – maen nhw isio dod i lawr i nofio yn yr afon a dydyn nhw ddim yn gallu."

Ond wrth i bobol lifo i'r pentref, er bod y caffis a'r tafarndai ar gau, mae rhai yn amau faint o fudd mae'r gymuned leol yn ei gael o'r fasnach erbyn hyn, wrth i nifer aros mewn tai gwyliau, a phrynu eu bwyd cyn cyrraedd. Ac maent yn poeni am effaith hir dymor y datblygiadau hyn.

Ychwanegodd Erynne: "Dwi'n gweld mewn 20 mlynedd bydd y gymuned wedi'i cholli."

Ac er yr heriau, does dim amheuaeth fod yr ardal hefyd yn gwbl ddibynnol ar dwristiaeth. Wrth edrych i'r dyfodol bydd y rhaglen hon yn ystyried y sialensiau newydd i gymunedau cefn gwlad yn sgil y pandemig. Cwestiynau a phynciau ddaeth yn fwy amlwg nag erioed yn ystod haf rhyfeddol 2020.

Eryri: Croeso Nol?

Nos Iau, 1 Ebrill, 9.00

Isdeitlau Saesneg ar gael

Ar alw: S4C Clic, iPlayer a llwyfannau eraill

Cynhyrchiad Cwmni Da ar gyfer S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?