S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Priodas Pum Mil yn galw am gyplau i gystadlu am briodas hafaidd

Emma a Trystan

1 Ebrill 2021

Bydd y newyddion fod Priodas Pum Mil yn dychwelyd yn siŵr o achosi cryn gyffro ledled y wlad.

Ond, os na fedrwch aros tan yr Hydref am y bumed cyfres o'r rhaglen sy'n gyfuniad perffaith o ramant ac adloniant, mae rhywbeth arbennig iawn ar y gweill i lenwi'r bwlch.

Meddai'r cyflwynydd Trystan Ellis-Morris, "Gan fod tipyn i aros nes y gyfres nesaf, mae Emma (Walford) a finnau wedi cael her arbennig ar gyfer yr haf.

"Unwaith eto, bydd cwpwl lwcus yn cael y cyfle i briodi a ninnau yn gweithio gyda'r teulu a ffrindiau i drefnu popeth drostynt. Ond, mae 'na cwpwl o dwists!

"Y gwylwyr fydd yn dewis y pâr buddugol, felly mae gan bawb ran bwysig i'w chwarae yn yr uniad y tro yma. Ac, mi fydd y cyfan yn cael ei ddarlledu'n fyw o un o leoliadau harddaf Cymru - ar draeth."

"Mae'r dyddiad wedi'i osod (16 Gorffennaf), mae'r arian yn y kitty, a da ni wrthi'n brysur yn barod i sicrhau fod y dydd yn un bythgofiadwy ac yn llawn o wynebau cyfarwydd. Be well? Be all fynd o'i le?".

"Yr unig beth sydd ar goll yw'r ddau ddyweddi."

Felly os ydych chi'n bâr cariadus sy'n dyheu am briodi yn yr awyr agored wrth deimlo'r tywod dan eich traed a sŵn y môr yn suo ger llaw, gwnewch eich cais nawr!

"Dychmygwch leoliad hudol wedi ei addurno'n fendigedig a dychmygwch adloniant o'r radd uchaf, gan un o gantorion enwocaf ein gwlad.

"Mae hyd yn oed sôn bod cogydd godidog yn paratoi i danio'r barbeciw yn barod," meddai Emma.

Os yw hyn i gyd yn apelio, heb i chi orfod talu ceiniog, dyma gyfle euraidd i fynd amdani.

Ac os nad ydych am roi cynnig arni, na phoener - mae gwahoddiad i bawb i Briodas Pum Mil Byw.

Yng nghanol mis Mai, bydd y tri cwpwl sy'n cyrraedd y rownd derfynol yn cyflwyno fideo i'r rhaglen Heno, i egluro pam dyle nhw ennill eich pleidlais.

Bydd fyny i chi i benderfynu pwy gaiff wireddu eu breuddwydion.

Felly, os am gyfle i ennill priodas unigryw gyda'r genedl yn gwylio, neu i enwebu pâr haeddiannol, ewch i www.s4c.cymru/priodaspummil i wneud cais cyn 23 Ebrill.

Trystan a Emma
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?