S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Gwyliwch gystadleuaeth rygbi Cwpan yr Enfys ar S4C

13 Ebrill 2021

Mi fydd pob un o'r gemau darbi rhwng rhanbarthau rygbi Cymru yn ystod tair wythnos gyntaf Cwpan yr Enfys i'w gweld ar S4C.

Am y tri penwythnos cyntaf o'r gystadleuaeth newydd, mi fydd Clwb Rygbi yn dangos y ddwy gêm darbi yn eu cyfanrwydd ar amseroedd gohiriedig.

Yn rownd un, bydd y Gweilch yn herio Gleision Caerdydd yn Stadiwm Liberty ar ddydd Sadwrn 24 Ebrill, gyda'r gêm gyfan yn cael ei ddangos am 8.35.

Yna ar ddydd Sul 25 Ebrill, bydd y Dreigiau yn croesawu Scarlets i Rodney Parade, gyda'r gêm yn cael ei ddarlledu am 5.30yh.

Ar ddydd Sadwrn 8 Mai, bydd Gleision Caerdydd yn mynd benben â'r Dreigiau gyda'r gêm i'w weld am 9.40yh ar S4C, tra bydd y gêm rhwng Scarlets a'r Gweilch ar ddydd Sul 9 Mai, yn cael ei ddangos am 5.30yh.

Ar ddydd Sadwrn 15 Mai, bydd Scarlets v Gleision Caerdydd yn cael ei ddarlledu am 7.30yh, tra bydd y gêm rhwng Dreigiau a'r Gweilch ar ddydd Sul 16 Mai, yn cael ei ddangos am 5.30yh.

Mae Clwb Rygbi yn cael ei gynhyrchu gan BBC Cymru.

Cwpan yr Enfys ar S4C

Rownd 1

Gweilch v Gleision Caerdydd – Dydd Sadwrn 24 Ebrill – 8.35yh ar S4C

Dreigiau v Scarlets – Dydd Sul 25 Ebrill – 5.30yh ar S4C

Rownd 2

Gleision Caerdydd v Dreigiau – Dydd Sadwrn 8 Mai – 9.40yh ar S4C

Scarlets v Gweilch – Dydd Sul 9 Mai – 5.30yh ar S4C

Rownd 3

Scarlets v Gleision Caerdydd – Dydd Sadwrn 15 Mai – 7.30yh ar S4C

Dreigiau v Gweilch – Dydd Sul 16 Mai – 5.30yh ar S4C

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?