S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​S4C yn hysbysebu am Ysgrifennydd Bwrdd

13 Ebrill 2021

Mae S4C wedi cyhoeddi hysbyseb swydd heddiw am Ysgrifennydd Bwrdd newydd.

Gyda'r sianel newydd gyflwyno cais ariannu i Adran Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain yn ogystal â strategaeth newydd ar waith am y pum mlynedd nesaf, dyma gyfle unigryw i fod yn rhan o ddatblygiad cyffrous yn hanes S4C.

Mae'r swydd allweddol hon yn ddolen gyswllt rhwng Bwrdd Unedol S4C a'r Tîm Rheoli, ac yn brif bwynt cyswllt i Adran DCMS Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Bwrdd Unedol S4C sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaethau S4C, yn atebol am wariant arian cyhoeddus, am benodi'r Prif Weithredwr a'r Ysgrifennydd, ac am sicrhau trefniadau effeithiol ar gyfer darganfod barn gwylwyr.

Meddai Rhodri Williams, Cadeirydd S4C: "Mae'n gyfnod hynod bwysig yn hanes S4C wrth i ni fynd ati i sefydlu gwasanaeth cynnwys digidol aml-blatfform fydd yn bodloni anghenion amrywiol ein gwylwyr a defnyddwyr.

"Mae gennym gyfeiriad clir i'n gwaith a mae angen i ni ymateb gydag awch i'r her sy'n ein wynebu.

"Mae hwn yn gyfle euraidd i unigolyn â phrofiad o lywodraethiant yn y sectorau cyhoeddus neu preifat i'n cynorthwyo i fynd i'r afael a'r her hwn.

"Mae hon yn swydd hanfodol fydd yn sicrhau perthynas gydweithredol ac effeithiol rhwng y Bwrdd a'r Tîm Rheoli.

"Rydym yn chwilio am rywun sydd â gallu dadansoddol cryf, llygad am fanylder a phrofiad o lunio dogfennau'n gywir ac yn brydlon gan gynghori ar faterion corfforaethol pwysig.

"Mae'r swydd yn gyfle gwych i rywun wneud cyfraniad helaeth i ddyfodol darlledu yng Nghymru ac i dwf yr iaith Gymraeg "

Mae'r dyddiad cau ar ddydd Llun 17 Mai 2021.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?