S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Cefnogaeth Ariannol i Gomisiynau Plant a Phobl Ifanc S4C

17 Mai 2021

Mae tri chwmni cynhyrchu o Gymru ac un cwmni o Ogledd Iwerddon wedi bod yn llwyddiannus yn eu ceisiadau diweddaraf i'r Gronfa Cynnwys i Gynulleidfaoedd Ifanc Y Deyrnas Unedig

Mae Boom Cymru, Cynyrchiadau Ceidiog, ITV Cymru a Paper Owl Films wedi derbyn cyllid ar gyfer creu comisiynau newydd sbon i S4C.

Mae'r Gronfa sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Prydain a'i rhedeg gan y BFI (British Film Institution) wedi cymeradwyo cyllid i bedwar o gomisiynau ar gyfer eu darlledu ar S4C.

Mae'r comisiynau yn cynnwys cyfres ddrama sci-fi newydd i blant o'r enw Y Goleudy (Boom Cymru), cyfres ddrama ac animeiddiadau sy'n trafod iechyd meddwl i blant rhwng 8 a 12 oed o'r enw Dwdl a Fi (Cynyrchiadau Ceidiog), rhaglen i bobl ifanc ar wleidyddiaeth a'r etholiad o'r enw Etholiad 21: Taswn I'n Brif Weinidog Cymru (ITV Cymru) a chyd-gynhyrchiad animeiddiedig gyda CITV i'r plant ieuengaf o'r enw Hapus (Paper Owl Films).

Mae'r gronfa wedi'i chynllunio i gyfrannu hyd at 50% o'r costau cynhyrchu ar gyfer prosiectau gan gefnogi cynhyrchwyr i ddatblygu syniadau newydd cyffrous, a'u cynhyrchu gyda'r gwerthoedd cynhyrchu uchaf yn ogystal â mynd i'r afael â diffyg cynnwys unigryw newydd sy'n ysbrydoli ac yn adlewyrchu bywydau plant a pobl ifanc.

Dywedodd Sioned Wyn Roberts, Comisiynydd Plant S4C: "Rydym yn falch iawn o gyhoeddi ystod o gyfresi newydd sbon i blant a phobl ifanc yng Nghymru.

"Mae ein rhaglenni diweddaraf yn cynnwys cyfresi apelgar ac amserol sy'n mynd i'r afael â phynciau pwysig fel iechyd meddwl a lles emosiynol mewn ffordd gynnil a hwyliog.

"O sci-fi i'r etholiad i lesiant mae ein llechen newydd o gynyrchiadau yn amrywiol a chynhwysol a byddant yn llywio, addysgu a swyno ein cynulleidfaoedd ifanc.

"Rydym yn hynod ddiolchgar i Gronfa Cynnwys Cynulleidfaoedd Ifanc am eu cefnogaeth i'n galluogi i ddod â'r cynyrchiadau hyn yn fyw ar y sgrin. "

Yn dilyn Adolygiad o Wariant llwyddiannus, bydd y Gronfa yn parhau i mewn i'w thrydedd blwyddyn ac yn derbyn hyd at £10.7m gan yr Adran Digidol, Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon Llywodraeth Prydain ar gyfer blwyddyn 3 y cynllun peilot, sy'n creu cyfanswm o hyd at £44.2m am y tair blynedd.

Nododd y BFI fod trawsdoriad y comisiynau yn dangos pwysigrwydd Darlledu Gwasanaethau Cyhoeddus yn y sector blant a phobl ifanc.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?