S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Sioned Geraint yw Comisiynydd Plant a Dysgwyr newydd S4C

24 Mai 2021

Mae S4C yn falch o gyhoeddi mai Sioned Geraint yw Comisiynydd Plant a Dysgwyr newydd S4C.

Yn wreiddiol o Gaerdydd ond bellach wedi ymgartrefu yn Efail Isaf, mae gan Sioned dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio yn y cyfryngau. A hithau wedi cychwyn ei gyrfa yn Adran Blant ac Adloniant HTV mae ers hynny wedi gweithio ar amryw o raglenni plant gan gynnwys Uned 5, Mosgito, Bôrd, Y Rhaglen Wirion 'Na, Stwffio, 'Step Inside' i C'beebies ac yn ddiweddar Anifeiliaid Bach y Byd i Cyw.

Yn ogystal â gyrfa ddisglair ym myd teledu plant mae gan Sioned brofiad helaeth ym maes rhaglenni dysgwyr hefyd. Bu'n greiddiol wrth sefydlu y gyfres eiconig i ddysgwyr, Cariad@iaith a bu'n gynhyrchydd i'r gyfres boblogaidd Welsh in a Week am flynyddoedd lawer.

Mae Sioned ar hyn o bryd yn gweithio fel Cynhyrchydd Cyfres ac Uwch-gynhyrchydd llawrydd a newydd orffen gweithio ar y gyfres adloniant ffeithiol Cymry ar Gynfas i S4C.

Meddai Sioned Geraint:

"Dwi'n teimlo'n freintiedig iawn i gael cynnig y swydd hon ac i ymuno â thîm comisiynu S4C. Mae cael gweithio yn y Gymraeg yn rhywbeth sy'n bwysig tu hwnt i mi ac yn agos iawn at fy nghalon. Dwi'n edrych ymlaen at ychwanegu at y cynnwys arbennig sy'n bodoli eisoes ac at greu cyfleoedd i'r sector annibynnol greu cynnwys Cymraeg ar gyfer gwahanol blatfformau. Yn sicr dwi wedi dod i ddeall pwysigrwydd a phŵer darlledu plant yn yr iaith Gymraeg ers dod yn fam rai blynyddoedd yn ôl ac os fedrai adeiladu ar hynny yn y byd digidol sydd ohoni mi fyddai'n hapus. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr i ddechrau ar y gwaith."

Wrth groesawu ei phenodiad fe ddywedodd Cyfarwyddwr Cynnwys S4C, Amanda Rees: "Mae'n wych gallu croesawu Sioned i ymuno â'n tîm comisiynu ar ôl gyrfa ddisglair ym maes cynhyrchu rhaglenni plant a dysgwyr. Mae ganddi ddealltwriaeth eang o'r maes ac mae'n braf ei bod wedi bod yn rhan mor allweddol o rai o gynyrchiadau mwyaf llwyddiannus y sianel. Edrychaf ymlaen at ei chroesawu.

Bydd Sioned yn cychwyn ei swydd newydd ddechrau mis Medi.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?