S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Rhaglen arbennig yn dathlu pen-blwydd Nigel Owens yn hanner cant

10 Mehefin 2021

Mae rhai o chwaraewyr rygbi enwoca'r byd, ffrindiau a theulu wedi talu teyrnged i Nigel Owens wrth i raglen deledu arbennig ddathlu ei ben-blwydd yn 50.

Yn y rhaglen Nigel Owens 50, sydd i'w gweld am 9.00yh ar nos Wener ar S4C, bydd y cyn-ddyfarnwr yn derbyn sypreis mawr gan Jonathan Davies a Sarra Elgan, ei gyd-gyflwynwyr ar gyfres Jonathan.

Ag yntau yn credu ei fod yno i ffilmio pennod o oreuon y gyfres Jonathan, mae Nigel yn cael braw gwirioneddol wrth ddysgu mai rhaglen i dalu teyrnged iddo ef ar drothwy ei ben-blwydd yn hanner cant yw'r rhaglen wedi'r cwbwl.

Bydd Nigel hefyd yn rhoi'r gorau i ddyfarnu yn broffesiynol ar ddiwedd y tymor rygbi hwn, gan ddod a'i yrfa ddisglair i ben.

Meddai Nigel: "Mae'n anoddach derbyn y ffaith bo fi'n hanner cant nag oedd e i ymddeol! Odd ymddeol yn hawdd i fod yn onest.

"Fi dal am wneud bach o ddyfarnu blwyddyn nesaf, gemau lleol a semi-pro, a fi'n hyfforddi cwpwl o ddyfarnwyr ifanc, fydd yn cymryd lan cwpwl o ddiwrnodau'r wythnos.

"Wrth gwrs mae gwaith ar y ffarm gyda fi hefyd, a fydda i dal i wneud Jonathan hefyd!"

"Mae e mor bwysig i fwynhau bywyd a hala amser gyda'r pobl sy'n golygu shwd gymaint i ti, achos ti byth yn gwybod beth sydd rownd y gornel.

"Mae'n lot o help bo ti'n gallu edrych yn ôl, ac edrych ar ba mor ffodus ydw i di bod."

Yn y rhaglen, byddwn ni'n clywed gan ei dad Geraint, ei bartner Barry, a'i ffrindiau, gan gynnwys pencampwr dartiau'r Premier League a thrigolyn Pontyberem, Jonny Clayton.

Fe fydd ystod eang o enwogion hefyd yn talu teyrnged i Nigel, gan gynnwys cast Coronation Street, y canwr opera Bryn Terfel, yr actor Matthew Rhys, y cyflwynydd Alex Jones a'r seiclwr Geraint Thomas.

Mae sawl wyneb cyfarwydd o'r byd rygbi hefyd yn ymddangos gyda cyfarchion i Nigel, gan gynnwys y gŵr ar ochr arall y linell fythgofiadwy, "This is not soccer," cyn maswr yr Eidal, Tobias Botes.

Un o'r chwaraewyr i anfon neges arbennig i Nigel oedd cefnwr yr Alban a'r Llewod, Stuart Hogg.

Dywedodd Hogg: "Nige, syr, rydw i eisiau cymryd y cyfle yma i ddymuno pen-blwydd hapus iawn i ti yn 50 oed.

"Dw i hefyd eisiau dymuno'r gorau i ti gyda dy ymddeoliad. Rwyt ti wedi bod ymysg y goreuon erioed i ddyfarnu'r gamp felly llongyfarchiadau mawr ar hynny. Wna i byth anghofio ti'n dweud wrtha i,

"if you want to do that, come back in two weeks." Dwi erioed wedi gallu anghofio hynny! Good times!"

Meddai Dan Carter, cyn maswr Seland Newydd: "Pen-blwydd hapus Nigel, yr holl ffordd o Seland Newydd.

"No swearing please, you're on the telly!" – na'i byth anghofio ti'n dweud hynny wrtha' i yng Nghwpan y Byd 2015, dim ond un o'r atgofion gwych ohonot ti'n dyfarnu ni.

"Felly, pob dymuniad da i ti ac ymddiheuriadau am fy acen Gymraeg gwael!"

Gwyliwch Nigel Owens 50 am 9.00yh ar nos Wener ar S4C, neu ar alw ar S4C Clic.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?