S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

Dogfen S4C yn dilyn cyflwynydd yn nofio ledled Cymru

14 Mehefin 2021

Mae S4C wedi comisiynu cyfres ddogfen antur tair rhan yn dilyn taith y cyflwynydd Gareth Jones wrth iddo herio'i hun i nofio 60km i ddathlu ei ben-blwydd yn 60 oed.

Bydd Gareth, sy'n adnabyddus am ei waith ar raglenni plant a gwyddoniaeth megis How 2, Get Fresh, Tomorrow's World a The Big Bang, yn ymgymryd â'r her 'na wnaed erioed o'r blaen' i ddangos i'r byd nad yw troi'n 60 yn ddiwedd y daith i'w ffordd wallgof o fyw.

Bydd camerâu yn dilyn Gareth pob cam o'r ffordd mewn cyfres ddogfen arsylwadol (ob doc) wrth iddo wthio'i hun i'r eithaf gan nofio ar draws llynnoedd a chronfeydd dŵr o dde i ogledd Cymru mewn tair wythnos.

Dechreuodd Gareth, sydd yn wreiddiol o ogledd-ddwyrain Cymru ond bellach yn byw yn Llundain, nofio'n wyllt rhai blynyddoedd yn ôl gyda ffrindiau a sylwi ei fod yn "reit dda yn gwneud". Ers hynny mae o wedi bod yn nofio mewn cronfa ddŵr lleol i gynyddu ei bellter.

"Mae am fod yn her enfawr ond dwi am roi'r cynnig gorau arni." Meddai Gareth. "Am ffordd arbennig o ail-ddarganfod fy mamwlad yn archwilio straeon o gwmpas ac o dan y dŵr. Mi ddylai hyn wneud i'r gwylwyr ymgolli hefyd, drwy gyfuno technegau dogfennol clasurol â graffeg gyfrifiadurol arloesol sy'n datgelu'r byd isod a chofnodi fy nata biolegol wrth i mi nofio."

"Dydw i ddim yn siŵr os alla'i wneud hyn, ond yr hyn dwi yn gwybod ydi nad ydi o erioed wedi'i wneud o'r blaen. Dwi'n gobeithio mai fi fydd y dyn a nofiodd ledled Cymru!"

Cynhyrchir y gyfres ddogfen o'r enw Gareth Jones: Nofio Adre gan Gwmni Cynhyrchu o Ogledd Cymru, Cwmni Da; sy'n adnabyddus am eu dogfennau antur byd-enwog. Eu rhaglenni dogfen gwobrwyedig 47 Copa ac Ar Gefn y Ddraig oedd y dogfennau Cymraeg cyntaf i gael eu dangos ar Amazon Prime. Mae'r tîm cynhyrchu yn cynnwys Llion Iwan fel Cyd-Uwch Gynhyrchydd gyda Gareth Jones a Huw Erddyn fel Cynhyrchydd/Cyfarwyddwr gyda Llinos Wynne yn Gomisiynydd Ffeithiol S4C.

Meddai Llinos: "Yn sicr fe wnaeth y comisiwn hwn ddenu fy sylw ar unwaith. Bydd personoliaeth ysbrydoledig Gareth ynghyd â golygfeydd syfrdanol o lynnoedd a chronfeydd dŵr a phrofiad Cwmni Da o gynhyrchu dogfennau antur o safon uchel yn creu'r gymysgedd berffaith. Rwy'n sicr y bydd y gwylwyr yn mwynhau dilyn her unwaith mewn oes Gareth."

Bydd y ffilmio yn digwydd ym mis Awst gyda'r dyddiad darlledu wedi'i osod ar gyfer mis Hydref.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?