S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Y Wasg

​14 enwebiad i S4C yng Ngŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021

15 Mehefin 2021

Mae S4C wedi derbyn 14 enwebiad yng Ngwobrau Torc Gŵyl Cyfryngau Celtaidd 2021.

Cynhelir yr ŵyl yn ddigidol rhwng 7-9 Medi 2021, ac mae'r ŵyl yn hyrwyddo'r diwylliannau a'n hieithoedd Celtaidd drwy deledu, ffilm, radio a chyfryngau digidol.

Yn rhan o'r enwebiadau llwyddodd cyfres boblogaidd Iaith ar Daith (Boom Cymru) i gael enwebiad yn y categori Adloniant Ffeithiol.

Enillodd drama bwerus Fflur Dafydd, 35 Diwrnod (Boom Cymru) enwebiad yn y categori Drama, a daeth cyfres arloesol Cyswllt (Vox Pictures) i'r rhestr fer gan dderbyn enwebiad yn y categori Drama Fer.

Yn ogystal daeth nifer o raglenni dogfen i'r brig gan gynnwys dwy enwebiad i un o raglenni cyfres DRYCH: Eirlys Dementia a Tim (Cwmni Da) yn y categori Dogfen Unigol a phrif gategori'r gwobrau sef Ysbryd yr Ŵyl.

Cafodd rhaglen arall DRYCH sef Y Côr (Cwmni Da) enwebiad yn y categori Celfyddydau a rhaglen ddogfen am dân echrydus pont Britannia sef Tân ar y Bont (Rondo) enwebiad yn y categori Hanes.

Cafodd rhaglen ddogfen antur 47 Copa (Cwmni Da) enwebiad yn y categori dogfen chwaraeon hefyd.

Cafodd Côr Digidol Rhys Meirion (Cwmni Da) enwebiad yn y categori Adloniant a chyfres unigryw Rybish (Cwmni Da) enwebiad yn y categori Comedi.

Llwyddodd darllediad arbennig Sioe yr Eisteddfod Goll (Orchard) i ennill enwebiad yn y categori Cerddoriaeth Fyw ac fe gafodd Dilynwyr (ITV Cymru) enwebiad yn y categori Ffurf Fer.

Hefyd yn derbyn enwebiad oedd rhaglen arbennig Pawb a'i Farn (Tinopolis) ar amrywiaeth ac ymgyrch Black Lives Matter enwebiad yn y categori Newyddion a Materion Cyfoes.

Daeth clod yn ogystal i raglenni plant S4C gyda rhaglen hudolus Nadolig Deian a Loli (Cwmni Da)

Meddai Amanda Rees, Cyfarwyddwr Creadigol Cynnwys S4C:

"Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi eu henwebu ar gyfer gwobrau'r ŵyl eleni.

"Mae amrywiaeth y cynyrchiadau ar y rhestr fer yn adlewyrchu safon y rhaglenni ar draws yr amserlen. Pob lwc i bawb fis Medi."

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?